Neidio i'r prif gynnwy

Noddfa Seibiant: man ar gyfer diogelwch, cefnogaeth a thosturi

Image of Seibiet Sanctuary showing entrance and comfy seating space

18 Tachwedd 2024

Mae man anghlinigol, cymunedol, sy’n ystyriol o drawma wedi cael ei lansio'n swyddogol yng Nghaerdydd, y cyntaf o’i fath yn y rhanbarth, sy’n darparu dewis amgen i’r Uned Achosion Brys. 

Mae'r cyfleuster argyfwng iechyd meddwl newydd, sy'n cael ei redeg gan yr elusen iechyd meddwl a chyfiawnder cymdeithasol, Platfform, yn cynnig man amgen diogel i unrhyw un sy'n profi argyfwng neu sydd angen cymorth iechyd meddwl ledled Caerdydd a'r Fro. 

Ers agor yn 2023, mae Noddfa Seibiant wedi cefnogi dros 250 o bobl, ac eleni, rhwng Gorffennaf a Hydref, derbyniodd y timau 156 o atgyfeiriadau am gymorth iechyd meddwl, 10 yr wythnos ar gyfartaledd, gan ddangos y galw digynsail am y gwasanaeth. 

Mae Noddfa Seibiant, sy'n cael ei redeg gan dîm o weithwyr proffesiynol hyfforddedig sy’n ystyriol o drawma, ar agor bob dydd o'r flwyddyn rhwng 5pm ac 1am ac mae'n cynnig cymorth dros y ffôn neu apwyntiadau wyneb yn wyneb yr un noson. 

Mae'r cyfleuster yn gweithredu mewn partneriaeth â’r cyllidwyr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, ac yn darparu cymorth iechyd meddwl ac emosiynol, sefydlogi a rheoleiddio y tu allan i oriau, yn ogystal â chyfeirio at gymorth dilynol yn ystod y dydd. 

Dywedodd Katie Mills, Rheolwr Gwasanaeth Noddfa Seibiant: "Wrth i brosiect Noddfa Seibiant dyfu, ein nod yw helpu cymaint o bobl â phosibl ac estyn allan at sefydliadau eraill fel meddygon teulu a thimau argyfwng yn y dyfodol, i ehangu ein llwybrau atgyfeirio. 

"Bob tro rwy'n dweud wrth rywun am ein prosiect Noddfa Seibiant, maen nhw'n mynegi pa mor angenrheidiol yw rhywbeth fel hyn. Ein nod yw helpu i newid y system a rhoi gwybod i bobl y gallwn gynnig lle diogel mewn cyfnod anodd a’n bod ni yma i wrando. 

"Mae ein dull o weithio sy'n ystyriol o drawma a'n ffordd berthynol o weithio wedi cael ymateb cadarnhaol enfawr hyd yn hyn, felly rydym yn gobeithio y bydd hyn yn parhau wrth symud ymlaen."

Yn dilyn atgyfeiriad diweddar at Noddfa Seibiant, dywedodd Geoff: "Mae pawb wedi bod yn hynod dosturiol, amyneddgar, ac yn llawn dealltwriaeth, sydd wedi gwneud i mi deimlo'n llai unig, ynysig, ac â llai o gywilydd - roeddwn i jyst eisiau i chi wybod eich bod chi wedi gwneud gwahaniaeth mawr yn fy mywyd."

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hefyd: "Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda'n Partneriaid yn Platfform i ddarparu'r gwasanaeth Noddfa Seibiant mewn amgylchedd diogel a thosturiol, ac edrychwn ymlaen at yr adborth cadarnhaol parhaus gan staff a defnyddwyr y gwasanaeth." 

Gellir cyrchu'r gwasanaeth trwy ddeialu llinell gymorth ffôn argyfwng y GIG, 111, a phwyso'r opsiwn '2' unwaith y gofynnir i chi wneud. Os yw'n briodol, bydd tîm GIG 111 wedyn yn cyfeirio'r galwr at un o saith aelod tîm Noddfa Platfform, a fydd yn anelu at roi galwad yn ôl o fewn 30 munud. 

Mae cymorth ychwanegol a gynigir yn cynnwys bwyd, diod, dillad a nwyddau ymolchi hanfodol, pecyn gofal i fynd ag ef gyda chi, yn ogystal â chyngor ac arweiniad ariannol ac ar dai. 

Darganfyddwch fwy: https://platfform.org/projects/crisis-prevention-and-home/cardiff-vale-sanctuary/ 

Dilynwch ni