Neidio i'r prif gynnwy

Dewch i gwrdd â rhai o'r gwirfoddolwyr ysbrydoledig sy'n gwneud gwahaniaeth

Cefnogir Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro gan dîm o wirfoddolwyr ymroddedig, sy’n gweithio'n galed yn y cefndir i roi gwên ar wyneb cleifion a lleddfu eu profiad cyffredinol yn yr ysbyty. 

Heddiw ar Ddiwrnod y Gwirfoddolwyr, dewch i gwrdd â rhai o'r bobl ysbrydoledig sy'n gwneud gwahaniaeth:

Eloise  

Mae Dr Eloise Warrilow yn gwirfoddoli yn Ysbyty Athrofaol Llandochau bob wythnos, gan gefnogi'r Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer Pobl Hŷn drwy gynnal sesiynau celf. 

Mae Eloise yn cynnal dosbarthiadau celf gwydr tawdd sy'n cadw cleifion yn brysur ac yn rhoi ymdeimlad o gyflawniad iddynt yn ystod eu harhosiad yn yr ysbyty. "Nid beth mae'r cleifion yn ei wneud yn y sesiynau celf yw’r peth pwysicaf, ond sut maen nhw'n teimlo" meddai Eloise. 

Mae'r prosiect wedi bod yn hynod fuddiol i gleifion, gan eu galluogi i archwilio eu creadigrwydd a'u diddanu yn ystod amseroedd anodd. 

Mae Eloise hefyd wedi gweld bod gwirfoddoli yn rhoi boddhad mawr iddi ar lefel bersonol: "Mae fy mhroffesiwn yn golygu mai anaml y byddaf yn cwrdd â phobl wyneb yn wyneb bellach, felly mae'n dda dod i Ysbyty Athrofaol Llandochau a chael rhyngweithio gyda gwahanol bobl." 

 

Evan  

Mae Evan Pires yn gwirfoddoli fel cyfaill cleifion yn Ysbyty Athrofaol Cymru. 

Mae Evan yn treulio amser gyda chleifion a allai fod yn unig neu'n ddiflas yn ystod eu harhosiad. Mae'n sgwrsio â nhw ac yn eu helpu gyda'u ffonau, fel y gallant gyfathrebu'n well gyda theulu a ffrindiau gartref.  

Yn ddiweddar, roedd mam Evan yn sâl a threuliodd gryn dipyn o amser yn Ysbyty Athrofaol Cymru. "Cefais fy synnu gan ba mor galed mae'r bobl hyn yn gweithio, a bob amser gyda'r lefelau uchaf o ofal a thosturi." Roedd Evan eisiau rhoi rhywbeth yn ôl a bod yn rhan o'r gwaith caled, felly cofrestrodd fel gwirfoddolwr. 

"Rwy'n ei chael hi'n hynod o werth chweil helpu pobl, mae'n gwneud i mi deimlo'n hapus ac yn ddefnyddiol. Mae bod yn wirfoddolwr yn hwb enfawr i'm hyder a'm hiechyd meddwl." 

"Rwy'n teimlo fy mod i wir wedi helpu rhai cleifion. P’un a ydw i’n cynnig clust dosturiol i wrando ar glaf sy'n teimlo'n isel neu ddim ond yn cael sgwrs a chwerthin gyda chlaf i godi ei galon.” 

 

Anss a Raima 

Mae’r ffrindiau Anss a Raima yn gwirfoddoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru bob dydd Sadwrn gyda'i gilydd fel cyfeillion cleifion. 

Mae'r ddau yn cynnig wyneb cyfeillgar i'r rhai sy'n teimlo'n unig ac yn aml yn sgwrsio ag aelodau teuluoedd cleifion sy'n aml yn ofidus ar ôl gweld anwyliaid yn sâl. 

"Un o fanteision mwyaf gwirfoddoli yw'r hunangyflawniad a gewch ar ôl i chi wybod eich bod wedi gwneud gwahaniaeth i fywyd rhywun - boed yn fach neu'n fawr." meddai Anss. 

"Mae'n werth chweil gweld y cleifion yn gwenu a gwybod ein bod wedi helpu i godi eu calon" meddai Raima 

Mae'r ddau yn teimlo eu bod wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i rai cleifion: "Mae cleifion yn llawn cyffro i'n gweld ni bob tro ry'n ni ar y wardiau."

Os hoffech gofrestru fel gwirfoddolwr, mae llawer o gyfleoedd gwirfoddoli ar gael mewn safleoedd ysbyty ledled Caerdydd a'r Fro. 

Diolch yn fawr iawn i holl wirfoddolwyr ein bwrdd iechyd heddiw, diolch am bopeth rydych chi'n ei wneud! 

Ewch i https://cavuhb.nhs.wales/our-services/voluntary-services/general-volunteering/ i ddarganfod mwy. 

 

Dilynwch ni