24 Rhagfyr 2024
Rydym yn gweld cynnydd yn y ffliw yn y gymuned ac ar draws ein safleoedd ysbyty.
Mae'r cynnydd hwn yn cael effaith ar draws Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Athrofaol Llandochau, gyda nifer o wardiau yn cael eu cau mewn gwelyau.
Mae gwybodaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi bod y ffliw yn debygol o gyrraedd uchafbwynt o fewn y 10 diwrnod nesaf, ac rydym yn gweithredu mesurau rheoli pellach i atal a rheoli heintiau er mwyn helpu i gadw cleifion, cydweithwyr ac ymwelwyr yn ddiogel.
Rydym yn cynghori unrhyw un sydd wedi bod yn sâl gyda symptomau annwyd neu ffliw i osgoi ymweld ag unrhyw un o’n hysbytai fel y gallwn leihau’r risg o achosion pellach.
Gofynnir i gleifion sy'n dangos symptomau difrifol ac sy'n teimlo bod angen gofal brys arnynt yn yr ysbyty wisgo mwgwd wrth gyrraedd yr ardaloedd asesu ac argyfwng. Rydym hefyd yn gofyn i bobl ddod ag un person yn unig gyda nhw os yn bosibl er mwyn lleihau niferoedd yn yr adrannau hyn.
Yr amddiffyniad gorau rhag feirysau tymhorol yw'r brechlynnau ffliw a COVID-19 sydd ar gael am ddim i grwpiau cymwys gan gynnwys pobl hŷn, y rhai â chyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes, a menywod beichiog.
Bydd pob person cymwys yn cael gwahoddiad i dderbyn eu brechiadau ffliw a COVID-19 naill ai yn eu meddygfa, fferyllfa leol neu glinig brechu cymunedol agosaf. Ewch i’r apwyntiadau hyn pan fyddant yn cael eu cynnig i chi.
I gael rhagor o wybodaeth am Raglen Frechu’r Gaeaf yn erbyn Feirysau Anadlol (WRVP) BIP Caerdydd a'r Fro, ewch i wefan y Bwrdd Iechyd.