Neidio i'r prif gynnwy

Adeiladu arferion iach i frwydro yn erbyn cyflyrau anadlol y gaeaf

Image of woman in coat and scarf, outside in the snow.

Yn ystod misoedd y gaeaf, ceir ymchwydd mewn problemau iechyd sy’n gysylltiedig ag anadlu. 

Os ydych chi’n dioddef o gyflyrau anadlol, gan gynnwys Asthma, Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint (COPD), neu heintiau anadlol, mae’n bwysig eich bod chi’n cymryd gofal arbennig ohonoch chi’ch hun wrth i’r tymheredd ostwng. Gellir gwneud hyn trwy fabwysiadu’r arferion iach canlynol: 

  • Rhoi’r gorau i smygu 

Un o’r pethau gorau y gallwch chi ei wneud i gyfyngu ar niwed problemau anadlol y gaeaf hwn yw rhoi’r gorau i smygu. 

Nid yn unig y mae sigaréts tybaco yn llidio’r organau, maent hefyd yn dinistrio meinwe’r ysgyfaint a’r blew bregus, tebyg i frwsh o’r enw cilia sy’n eu cadw’n lân. 

Gall creu arferion iach fel ymarfer corff, sylwi ar sbardunau, bod yn ystyriol o pan fydd chwant yn digwydd wella’r siawns o roi’r gorau iddi. Gall gymryd dim ond 21 diwrnod i dorri’r arferiad. 

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn rhoi’r gorau i smygu, ond nid ydych chi’n siŵr sut i ddechrau, ewch i: Helpa Fi i Stopio | Gwasanaethau Rhoi’r Gorau i Smygu yng Nghymru

  • Brechiad rhag y ffliw & Covid-19 

Mae Rhaglen Frechu’r Gaeaf yn erbyn Feirysau Anadlol (WRVP) ar gyfer 2024/25 wedi’i lansio yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. 

Y nod yw cynnig brechlynnau COVID-19 a’r ffliw i’r rhai sydd fwyaf tebygol o fynd yn ddifrifol wael o’r ddau firws, gan gynnwys y rhai â chyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes, plant a menywod beichiog. 

Os ydych chi’n byw gyda chyflwr anadlol ac yn gymwys ar gyfer Rhaglen Frechu’r Gaeaf yn erbyn Feirysau Anadlol BIPCAF, mae’n hanfodol eich bod yn cael eich brechu er mwyn amddiffyn eich hun y gaeaf hwn. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yma: Brechiad rhag y ffliw a dos atgyfnerthu’r gaeaf COVID-19 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (nhs.wales) 

  • Bwyta deiet cytbwys

Mae sicrhau ein bod yn bwyta ac yfed cystal ag y gallwn yn rhywbeth yr ydym yn gallu ei reoli yn ystod y cyfnod ansicr hwn, sy’n un ffordd bwysig o ofalu am ein cyrff a’n meddyliau. 

Ceisiwch sicrhau eich bod yn bwyta prydau cytbwys, gyda digon o ffrwythau a llysiau, ac yn yfed gymaint o ddŵr â phosibl. 

Mae canllawiau pellach i helpu gyda deiet iach a chytbwys ar gael ar wefan Cadw Fi’n Iach: Bwyta’n Dda - Cadw Fi’n Iach

  • Cadw’n heini  

Mae’n bwysig parhau i fod yn actif yn ystod y misoedd oerach. 

Mae’n helpu i gadw pwysau iach, yn lleihau straen, yn codi’r hwyliau, yn cryfhau’r esgyrn a’r cyhyrau ac yn lleihau’r risg o ddatblygu cyflyrau cronig, gan gynnwys clefyd y galon, diabetes a strôc. 

Dylai oedolion anelu am o leiaf 150 munud o weithgarwch cymedrol yr wythnos, gyda chyfradd anadlu uwch ond yn eu bod yn dal i allu siarad, neu 75 munud o weithgarwch egnïol gyda chyfradd anadlu gyflym ac anhawster siarad, neu gyfuniad o’r ddau.

Dylid gwneud ymarfer cryfder a chydbwysedd o leiaf ddau ddiwrnod yr wythnos. 

Gwnewch ymdrech ymwybodol i symud mwy, eistedd llai a chynyddu eich gweithgarwch corfforol yn raddol. 

  • Cynllunio meddyginiaeth ymlaen llaw 

Cynlluniwch gyda’ch meddyg teulu a’ch fferyllydd i sicrhau nad ydych yn brin o feddyginiaeth yn ystod penwythnosau a gwyliau banc, fel y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. 

Cofiwch gadw eich anadlydd gyda chi bob amser, yn enwedig pan fyddwch allan yn yr oerfel. 

  • Fitamin D 

Mae fitamin D yn helpu i reoleiddio faint o galsiwm a ffosffad sydd yn y corff. Mae angen y maetholion hyn i gadw esgyrn, dannedd a chyhyrau’n iach. 

Mae ein cyrff yn cael fitamin D pan fyddwn ni allan yng ngolau dydd. 

Gyda llawer ohonom yn treulio mwy o amser dan do yn ystod pandemig COVID-19, efallai y bydd llawer ohonom yn cael trafferth cynhyrchu digon o Fitamin D yn naturiol. 

I fynd i’r afael â hyn, gallech gyflwyno ychwanegiad fitamin D. Mae’r rhain ar gael i’w prynu o fferyllfeydd ac archfarchnadoedd. Mae hefyd yn bwysig bwyta bwyd sy’n llawn fitamin D, fel pysgod olewog. 

  • Cadw’n gynnes

Mae’n bwysig cadw’r lle rydych chi’n byw mor gynnes â phosibl os ydych chi’n dioddef o gyflyrau anadlol. Gwisgwch haenau ychwanegol o ddillad a blancedi, a cheisiwch yfed diodydd poeth a bwyta prydau bwyd poeth drwy gydol y dydd. Cofiwch edrych ar ragolygon y tywydd a gwisgo’n gynnes cyn mynd allan. 

Gallwch ddarganfod mwy ar wefan Cadw Fi’n Iach: Adref - Cadw Fi'n Iach (keepingmewell.com).

Dilynwch ni