Rhwng 19 Chwefror ac 16 Ebrill 2021, cynhaliodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ymgysylltiad â’r cyhoedd ar gynnig i ad-drefnu gwasanaethau fasgwlaidd lleol yn fodel ‘prif ganolfan a lloerennau’.
Mae clinigwyr yn cytuno bod hwn yn fodel darparu cynaliadwy a fydd yn darparu’r canlyniadau gorau i’r holl gleifion o fewn y rhanbarth ac yn gwneud y defnydd gorau o sgiliau a staff yn ôl cyngor y Gymdeithas Fasgwlaidd.
Ymgysylltu â’r cyhoedd
Roedd y broses ymgysylltu yn gofyn am adborth gan y cyhoedd ar y cynnig i leoli hwb llawfeddygaeth fasgwlaidd ar gyfer De-ddwyrain Cymru yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, gyda’r prif wasanaethau ysbyty lloeren yn aros yn Ysbyty Brenhinol Gwent, Ysbyty Athrofaol y Faenor, Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Ysbyty Athrofaol Llandochau ac Ysbyty Athrofaol Cymru, a gofal yn aros yn agosach at gartrefi lle bynnag y bo’n bosibl.
Diolch i bawb a gymerodd y cyfle i roi adborth, drwy ddigwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd, yr arolwg ar-lein, dros e-bost neu ar y cyfryngau cymdeithasol.
Beth a ddywedoch wrthym
O’r rhai hynny a gymerodd ran yn yr arolwg ar-lein, roedd 72% yn cytuno â’r dystiolaeth genedlaethol a’r argymhelliad gan yr arfarniad o opsiynau clinigol y byddai model prif ganolfan a lloerennau yn gwella gwasanaethau fasgwlaidd a chanlyniadau i gleifion yn Ne-ddwyrain Cymru.
Daeth nifer o themâu cyffredin i’r amlwg o’r adborth a gafwyd mewn ymateb i’r cwestiynau ymgysylltu ac mewn fformatau eraill, gan gynnwys sylwadau a wnaed yn y digwyddiadau cyhoeddus ac i randdeiliaid.
Nodwyd y themâu canlynol:
Gwnaeth ymatebwyr amlygu’r syniadau neu’r problemau penodol sy’n gysylltiedig â darparu ac integreiddio gwasanaeth o fewn y rhwydwaith arfaethedig ac yn y prif ganolfan a’r lloerennau. Roedd pobl eisiau sicrwydd bod y model yn ddigonol.
Codwyd cwestiynau ynghylch lleoliadau’r prif ganolfan a’r lloerennau a pham eu bod wedi’u dewis.
Mynegodd y rhai a oedd yn cymryd rhan pa mor bwysig yw ystyried trefniadau teithio a pharcio mewn safleoedd ysbyty.
Roedd aelodau o’r cyhoedd yn poeni am effaith pandemig COVID-19 ar amseroedd aros a darpariaeth y gwasanaethau.
Gwnaeth sylwadau ynghylch cwmpas yr ymgysylltu, sut yr ymgynghorwyd â’r cyhoedd ac ym mha ffordd.
Gwnaeth y cyhoedd gwestiynau effaith y model ar wasanaethau sy’n bodoli eisoes yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac i ba raddau y mae anghenion y dyfodol wedi’u hystyried.
Gwnaeth yr ymatebwyr a’r rhai a oedd yn cymryd rhan leisio pa mor bwysig yw hyfforddiant proffesiynol a’r cyfleoedd i ddatblygu ar gyfer yr holl staff yn y rhwydwaith, yn ogystal â chodi cwestiynau ynghylch sut y dylid staffio Rhwydwaith Fasgwlaidd De-ddwyrain Cymru.
Gwnaeth yr ymatebwyr amlygu pwysigrwydd cyfathrebu a gweithio ar y cyd ar draws pedwar o ardaloedd y Bwrdd Iechyd. Atgyfnerthwyd pwysigrwydd cyfathrebu rhwng cleifion a’u teuluoedd yn ystod eu harhosiad fel cleifion mewnol hefyd.
Mynegwyd pryder ynghylch ariannu annigonol ar gyfer y Byrddau Iechyd a goblygiadau ariannol gweithredu model rhwydwaith yn yr ardal.
Ceir disgrifiad mwy manwl o’r themâu hyn yn yr adroddiad ymgysylltu llawn yn ogystal â’r ymateb i’r materion a godwyd. Mae hyn yn cynnwys pa gamau gweithredu a gymerir i fynd i’r afael â’r materion yn rhan o ddatblygiad parhaus y rhwydwaith. Defnyddir yr holl adborth i sicrhau bod gwasanaethau’r dyfodol yn cael eu gweithredu’n addas gyda’r ystyriaethau cywir, gan gael effaith gadarnhaol ar gleifion, eu teuluoedd a staff y GIG.
Y canlyniad
Mae Cynghorau Iechyd Cymuned a Byrddau Iechyd partner wedi adolygu canfyddiadau’r ymgysylltiad yn annibynnol ac wedi cefnogi’r achos i symud ymlaen gyda’r rhaglen waith, yn amodol ar weld y materion a godwyd yn ystod yr ymgysylltiad yn cael eu datrys yn y cam gwaith nesaf, fel yr amlinellir yn yr adroddiad.
Beth nesaf?
Bydd y gwaith cynllunio ffurfiol ar gyfer Rhwydwaith Fasgwlaidd De-ddwyrain Cymru bellach yn cael ei weithredu a bydd y Byrddau Iechyd yn sefydlu model prif ganolfan a lloerennau newydd ar y cyd, gan gynnwys seilwaith ac adnoddau. Darperir diweddariadau pellach wrth i’r gwasanaeth ddatblygu.
Gweler Adroddiad Ymgysylltu â’r Cyhoedd Rhwydwaith Fasgwlaidd De-ddwyrain Cymru yma.
Mae nifer o heriau cynyddol sy’n wynebu gwasanaethau fasgwlaidd yn Ne-ddwyrain Cymru, sy’n golygu na ellir cynnal y gwasanaeth ar ei ffurf bresennol ar gyfer y dyfodol. Mae cyfluniad gwasanaethau fasgwlaidd ar draws y rhanbarth wedi’i drafod yn helaeth ers llawer o flynyddoedd. Cafodd llawer o opsiynau eu harchwilio a chafodd cyfres o argymhellion eu sefydlu.
Mae gan ein Byrddau Iechyd yn Ne-ddwyrain Cymru gysylltiadau gwaith hirsefydlog, ac mae Rhwydwaith Fasgwlaidd De-ddwyrain Cymru wedi cael ei sefydlu’n ffurfiol i wella cydweithrediad a nodi’r model gofal gorau ar gyfer y dyfodol. Mae’r rhwydwaith yn cynnwys:
Gyda’n gilydd, rydym yn cynnig nifer o newidiadau i wasanaethau fasgwlaidd yn ein rhanbarth a fydd yn ei wneud yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol, ac yn bwysicach oll, yn arwain at ofal cleifion a chanlyniadau gwell. Gan ystyried canllawiau cenedlaethol a chyngor arbenigol, mae model prif ganolfan a lloerennau wedi’i nodi fel y ffordd orau o ddarparu gofal fasgwlaidd ar draws rhanbarth De-ddwyrain Cymru.
Byddai’r model hwn yn golygu y byddai’r holl lawdriniaethau fasgwlaidd mawr yn cael eu cynnal yn Ysbyty Athrofaol Cymru fel y prif ganolfan, ond byddai’ rhan fwyaf o’r gofal yn cael ei ddarparu yn nes at gartrefi pobl mewn ysbytai lloeren. Mae hyn yn cynnwys asesiadau cyn llawdriniaeth, ymchwiliadau a gofal adfer.
Hoffem glywed gennych chi, poblogaeth De-ddwyrain Cymru, i gael eich barn ar y model gofal arfaethedig...
Rydym wedi casglu gwybodaeth am natur gwasanaethau fasgwlaidd, y drefn bresennol, yr heriau sy’n ein hwynebu, ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol a’r buddion i gleifion. Manteisiwch ar y cyfle i ddysgu mwy am y newidiadau arfaethedig a chyflwynwch eich adborth. Mae’r gwasanaethau hyn yn rhan hanfodol o’n seilwaith gofal iechyd yn Ne-ddwyrain Cymru.
Darllenwch y ddogfen Dyfodol Gwasanaethau Fasgwlaidd yn Ne-ddwyrain Cymru a chyflwynwch eich adborth drwy ein harolwg.
Rydym yn gweithio’n agos gyda’n Cynghorau Iechyd Cymuned a sefydliadau partner eraill i sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn cael y cyfle i ddysgu am y rhaglen hon a rhannu eu
safbwyntiau. Mae’n bwysig ein bod yn clywed eich meddyliau a’ch safbwyntiau wrth i ni ddechrau datblygu ein cynlluniau.
Bydd y cyfle hwn i ymgysylltu â’r cyhoedd yn para 8 wythnos o ddydd Gwener 19 Chwefror i ddydd Gwener 16 Ebrill 2021.
Rhowch adborth i ni drwy gwblhau’r arolwg byr hwn:
Fel arall, gallwch lenwi’r ffurflen yn y ddogfen Dyfodol Gwasanaethau Fasgwlaidd yn Ne-ddwyrain Cymru a’i hanfon atom mewn dwy ffordd:
ENGAGE WITH US
Woodland House
Maes-y-coed Road
Cardiff
CF14 4HH
I siarad ag aelod o’r tîm i gael rhagor o arweiniad, ffoniwch: 02921 836068.
Cynhelir cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu gan bob un o’r Byrddau Iechyd sy’n darparu’r gwasanaeth ar y dyddiadau canlynol:
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan | Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro | Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg | Bwrdd Iechyd Addysgu Powys |
10/03/2021 16/03/2021 17/03/2021 18/03/2021 |
16/03/2021 18/03/2021 |
11/03/2021 23/03/2021 |
Mae’r digwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd yn cael eu harwain gan y sefydliadau sy’n cynnig gwasanaethau llawdriniaeth fasgwlaidd yn Ne-ddwyrain Cymru. Mae croeso i gleifion, aelodau o’r cyhoedd a rhanddeiliaid ym Mhowys i ddod i unrhyw un o’r digwyddiadau hyn. |
Gallwch wylio ein digwyddiadau ymgysylltu â'r cyhoedd blaenorol ar ein sianel YouTube yma.
Yn dilyn y dyddiad cau ar 16 Ebrill byddwn yn: