|
---|
Cynhelir yr holl glinigau cleifion allanol yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
Yr ystafelloedd clinig a ddefnyddir yw Ystafell 3 yn y coridor cleifion allanol (oddi ar y prif goridor ar y llawr gwaelod uchaf) neu'r ystafell drwytho imiwnoleg (ar y coridor llawr cyntaf rhwng blociau wardiau B ac C).
Yn gyffredin â’r rhan fwyaf o adrannau imiwnoleg eraill, nid oes ward benodol yn Ysbyty Athrofaol Cymru ar gyfer cleifion mewnol. Yn hytrach, mae trefniadau derbyn yn cael eu trafod fel arfer gyda naill ai'r cofrestrydd meddygol cyffredinol neu'r tîm clefydau heintus.
Rydym yn hyfforddi ac yn cefnogi cleifion i drin eu hunain gartref pryd bynnag y bo hyn yn ddymunol ac yn ddiogel. Rydym yn gweithio gyda byrddau iechyd eraill ar gyfer cleifion sy’n byw y tu allan i Gaerdydd i hwyluso triniaeth yn yr ysbyty yn nes at eu cartrefi.
Dim ond i gleifion sy'n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg y darperir gwasanaethau alergedd.