Mae CAVHIS yn darparu cofrestriad dros dro gydag asesiad iechyd trylwyr, sgrinio iechyd rhywiol, adolygiad meddygol ac unrhyw atgyfeiriadau angenrheidiol brys ar gyfer unigolion y mae gwaith rhyw yn effeithio arnynt, nad ydynt wedi cofrestru gyda meddyg teulu. Gall unigolion hunanatgyfeirio, drwy gysylltu â’r gwasanaeth i wneud apwyntiad dros y ffôn neu drwy fynd i’r dderbynfa. Mae staff CAVHIS yn ymdrechu i fod mor hyblyg â phosibl wrth ddarparu ar gyfer pobl sy’n galw heibio i ofyn am sgriniad iechyd. Ar ôl cwblhau’r asesiad iechyd a’r sgrinio, caiff unigolion gymorth i gofrestru gyda phractisau meddygon teulu er mwyn cael gafael ar ofal parhaus.