Mae'r clinig hwn ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â syndrom dileu 22q11 a'u teuluoedd. Rôl y clinig yw dod â phlant a theuluoedd yr effeithir arnynt ynghyd â thîm amlddisgyblaethol arbenigol i helpu i gydlynu ac arwain gofal y cleifion hyn ledled Cymru. Er mwyn cael gofal effeithiol, mae gwasanaethau cymunedol lleol yn hanfodol, ac argymhellir yn gryf bod pediatregydd cymunedol yn cymryd rhan yn gynnar. Bwriedir i'r cynnwys canlynol gynorthwyo gweithwyr gofal iechyd sy'n ymwneud â gofal cleifion sydd â'r cyflwr cyffredin hwn, ac mae'n cydnabod yn ddiolchgar ddogfen gonsensws Apêl Max o grynodebau perthnasol clinigwyr ar syndrom dileu 22q11 fel ffynhonnell allweddol.
Pan fyddwch yn atgyfeirio claf i'r clinig amlddisgyblaethol syndrom dileu 22q11, ystyriwch gynnwys y wybodaeth yn y ddogfen ganlynol:
Argymhellion ar gyfer atgyfeirio i'r tîm amlddisgyblaethol 22q11
Ym 1965, disgrifiwyd ‘Syndrom DiGeorge' gyntaf fel triawd o ddiffygion cardiaidd, clwy'r llaeth (hypocalcaemia) ac imiwnoddiffygiant (1, 2). Yn y 1990au, dangosodd fflworoleuedd croesiad in situ mai dilead ym mand 11.2 ar fraich hir cromosom 22 oedd yn achosi hyn a syndromau gorgyffyrddol, fel syndrom felo-cardio-wynebol, Syndrom DiGeorge a syndrom Shprintzen (3). Oherwydd cydnabyddir bellach bod y nodweddion yn deillio o'r un dilead, mae'r syndrom yn cael ei ddosbarthu fel "syndrom dileu 22q11".
Mae aráe croesrywedd genomig cymharol yn cael ei ddefnyddio'n helaeth bellach gyda phlant ag anableddau dysgu, gan ei fod yn darparu gwybodaeth fwy cywir am ddileadau a dyblygiadau 22q. Mae mwy a mwy o blant â nodweddion cynnil yn cael eu profi, gan arwain o bosibl at gynnydd o ran gwneud diagnosis o syndrom dileu 22q11 (4, 5, 6). Dyma'r syndrom dileu mwyaf cyffredin, yr amcangyfrifir ei fod yn digwydd mewn 1/1000 - 1/6000 o enedigaethau, a'r mwyaf cyffredin yw 1/4000 (1-4, 7-8).
Mae etifeddiaeth yn dilyn trefn awtosomaidd trechol. Ond, mae tua 90% o'r achosion yn fwtaniadau naturiol (1, 3). Argymhellir bod cromosomau'r rhieni'n cael eu gwirio oherwydd efallai bod ganddynt syndrom dileu 22q11.2 heb ddiagnosis, gan eu bod yn asymptomatig neu'n dangos nodweddion ysgafn. Gallai rhieni ddymuno defnyddio profion cynenedigol ar gyfer beichiogrwydd yn y dyfodol (1, 5, 9). Mae heterogenedd syndrom dileu 22q11.2 yn dod i'r amlwg mewn ffyrdd amrywiol, o ran math a difrifoldeb yr anawsterau a'r oedran pan fyddant yn datblygu, sy'n golygu bod plant yn cael eu cyflwyno i nifer o wahanol arbenigeddau. Ni fydd yn effeithio ar bob plentyn yn ddifrifol, a bydd llawer yn tyfu gyda disgwyliad oes arferol (1, 6, 8). Dangosir rhai o'r nodweddion craidd yn y diagram isod.
Elusen gofrestredig yw Apêl Max, sy'n cynnig cymorth i'r rhai hynny y mae Syndrom Dileu 22q11 yn effeithio arnynt, eu teuluoedd, eu gofalwyr a'u ffrindiau. Gallant gynnig clust i wrando, llenyddiaeth ddefnyddiol a chymorth i ddod o hyd i wybodaeth bellach. Lle y bo'n bosibl, bydd cynrychiolydd o'r elusen ar gael ar ddiwrnod clinig y tîm amlddisgyblaethol hefyd.
Manylion Cyswllt: www.maxappeal.org.uk
Gweler y ddogfen gwybodaeth atgyfeirio uchod.
Mae pwysigrwydd iechyd meddwl yn cael ei gydnabod fwyfwy. Ystyriwch atgyfeirio i'r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed ar gyfer asesiad os yw anhwylder sbectrwm awtistiaeth (ASD), anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) a phroblemau ymddygiadol yn y plentyn cyn oed ysgol ac oed ysgol yn achosi camweithrediad.
1. McDonald-McGinn DM, Sullivan KE, Marino B, Philip N, Swillen A, Vorstman JAS, et al. 22q11.2 deletion syndrome. Nat Rev Dis Primers. 2015;1:15071. doi:10.1038/nrdp.2015.71
2. Max Appeal. A Bit of Background History. [cyrchwyd 25 Mawrth 2018]. Ar gael o: http://www.maxappeal.org.uk/knowledge/a_bit_of_background_history
3. The International 22q11.2 Foundation Incorporated. 22q11.2 Deletion. 2018 [cyrchwyd 24 Mawrth 2018]. Ar gael o: http://www.22q.org/about-22q/faqs/22q11-2-deletion/#1
4. Bassett A, McDonald-McGinn D, Devriendt K, Digilio M, Goldenberg P, Habel A, et al. Practical Guidelines for Managing Patients with 22q11.2 Deletion Syndrome. J Pediatr. 2011; 159(2):332-339. doi:10.1016/j.peds.2011.02.039
5. Wentzel C, Fernström M, Ohrner Y, Annerén G, Thuresson AC. Clinical variability of the 22q11.2 duplication syndrome. Eur J Med Genet. 2008;51(6):501-510. doi:10.1016/J.ejmg.2008.07.005
6. Habel A, Herriot R, Kumararatne D, Allgrove J, Baker K, Baxendale H, et al. Towards a safety net for management of 22q11.2 deletion syndrome: guidelines for our times. Eur J Pediatr. 2014;173(6):757-765. doi:10.1007/s00431-013-2240-z
7. Fung WL, Butcher NJ, Costain G, Andrade DM, Boot E, Chow EWC, et al. Practical guidelines for managing adults with 22q11.2 deletion syndrome. Genet Med. 2015;17(8):599-609. doi:10.1038/gim.2014.175
8. Oskarsdóttir S, Vujic M, Fasth A. Incidence and prevalence of the 22q11 deletion syndrome: a population-based study in Western Sweden. Arch Dis Child. 2004;89(2):148-151