Neidio i'r prif gynnwy

Apwyntiadau Cleifion Allanol

Disgwylir i apwyntiadau cleifion allanol sydd wedi'u trefnu barhau. Efallai y cynigir ymgynghoriad wyneb yn wyneb, fideo neu ffôn i chi.


Os oes gennych apwyntiad wedi'i drefnu yn un o'n hysbytai, y cawsoch wahoddiad i fynd iddo'n bersonol, gwnewch hynny fel a gynlluniwyd oni bai bod gennych symptomau COVID-19. Ewch ar eich pen eich hun os oes modd. Os na allwch fynd i'ch apwyntiad, cysylltwch â'r ysbyty gan ddefnyddio'r manylion cyswllt yn eich llythyr apwyntiad fel y gall gynnig eich apwyntiad i gleifion eraill.


Pan fyddwch yn cyrraedd ar gyfer eich apwyntiad claf allanol, bydd rhywun yn eich cyfarch ac yn gofyn cwestiynau i chi ynglŷn ag unrhyw symptomau COVID-19 posibl a allai fod gennych. Bydd aelod o staff yn mesur eich tymheredd hefyd. 


Cofiwch ddod â gorchudd wyneb gyda chi a gwisgwch ef tra byddwch y tu mewn i'r ysbyty. Dilynwch ganllawiau cadw pellter cymdeithasol bob amser hefyd.
 

Dilynwch ni