Neidio i'r prif gynnwy

Gweiddi ar bobl eraill

Mae rhai pobl yn mynegi dicter ar lafar, trwy weiddi. Weithiau gall hyn fod yn ymosodol, gan gynnwys rhegi, bygythiadau neu alw enwau.

Mae rhai pobl yn ymateb yn dreisgar ac yn estyn ergyd yn gorfforol, yn taro pobl eraill, yn eu gwthio neu'n torri pethau. Gall hyn fod yn arbennig o niweidiol a brawychus i bobl eraill.

Mae rhai ohonom yn dangos dicter mewn ffyrdd goddefol, er enghraifft, trwy anwybyddu pobl neu bwdu.

Gall pobl eraill guddio eu dicter neu ei droi yn eu herbyn eu hunain. Gallant fod yn ddig iawn ar y tu mewn ond yn teimlo na allant ei ddangos.

Mae dicter yn dweud wrthym fod angen i ni weithredu i unioni rhywbeth. Mae'n rhoi cryfder ac egni inni, ac yn ein cymell i weithredu. Fodd bynnag, i rai pobl, gall dicter fynd allan o reolaeth ac achosi problemau gyda pherthnasoedd, gwaith a hyd yn oed y gyfraith.

Mae dicter tymor hir, heb ei ddatrys, yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd fel pwysedd gwaed uchel, iselder ysbryd, pryder a chlefyd y galon. Mae'n bwysig delio â dicter mewn ffordd iach nad yw'n niweidio chi na neb arall.

Darllenwch fwy o wybodaeth am ddicter a sut i ddelio ag ef.
Dilynwch ni