Neidio i'r prif gynnwy

Paratoi ar gyfer Gwerthusiad Seiliedig ar Werthoedd

Wrth baratoi, sicrhewch fod y rheolwr a'r cyflogai fel ei gilydd wedi cynllunio a pharatoi'n dda ar gyfer y sgwrs drwy:
 
  1. Sicrhau eich bod wedi ymgyfarwyddo â'r broses.
  2. Rhoi'r canllaw i'r Gwerthusiad Seiliedig ar Werthoedd i'r cyflogai cyn y cyfarfod, er mwyn iddo ddeall y broses yn llawn.
  3. Adolygu'r cynnydd a'r cymorth sydd ei angen ar yr holl staff yn y cyfarfod Adolygu Olyniaeth.
  4. Rhoi amser gwarchodedig i'r cyflogai ymlaen llaw i'w annog i gwblhau'r hunanasesiad a dogfennaeth arall a myfyrio ynghylch ble mae ei botensial yn eistedd yng nghyd-destun y Fframwaith Sgwrs Gyrfa.
  5. Ystyried a dod â thystiolaeth ehangach i gefnogi'r drafodaeth e.e. 
  6. Tudalen canlyniadau hunanasesiad
  7. Adborth a myfyrdodau ynghylch yr hyn rydych wedi'i ganfod
  8. Amcanion blaenorol a chanlyniadau perfformiad
  9. Enghreifftiau o waith
  10. Amlinelliad o'r Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau (KSF) neu fframweithiau perthnasol eraill
  11. Sicrhau eich bod wedi cael amser ymlaen llaw fel bod y ddau ohonoch mewn lle da yn feddyliol i allu cael sgwrs dda.
  12. Sicrhau bod digon o amser wedi'i roi i'r cyfarfod, a bod yr amser wedi'i warchod. 
  13. Bod yn ystyriol o'r amgylchedd lle cynhaliwch y sgwrs hon – defnyddio lle tawel a chyffyrddus.
Dilynwch ni