Neidio i'r prif gynnwy

Prentisiaethau - Iechyd

Prentisiaeth Sylfaen mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2 - Gofal Cymdeithasol (Oedolion)  Cymraeg

Bydd y rhaglen hon yn arwain ac yn asesu datblygiad gwybodaeth a sgiliau'r rhai a gyflogir yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd y cymwysterau a gynhwysir yn berthnasol i'r rheini sy'n cefnogi oedolion mewn rolau fel:

  • Cynorthwywyr gofal/ gweithwyr cymorth/ gweithwyr allweddol mewn gwasanaethau preswyl, dydd neu wasanaethau cartref
  • Cefnogi gweithwyr mewn prosiectau byw â chymorth

Ar ôl cwblhau'r fframwaith prentisiaeth hwn, bydd yr ymgeisydd yn derbyn y cymwysterau a'r tystysgrifau canlynol:

  • Diploma Lefel 2 City & Guilds mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion)
  • Sgiliau Hanfodol Cymru - Cymhwyso Rhifau Lefel 1, Cyfathrebu Lefel 2 a TGCh Lefel 1
  • Prentisiaeth Sylfaen mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Am wybodaeth bellach cyfeiriwch at y fframwaith llawn.


Prentisiaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3 - Gofal Cymdeithasol (Oedolion) Cymraeg

Bydd y rhaglen hon yn arwain ac yn asesu datblygiad gwybodaeth a sgiliau'r rhai a gyflogir yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd y cymwysterau a gynhwysir yn berthnasol i'r rheini sy'n cefnogi oedolion mewn rolau fel:

  • Cynorthwywyr gofal/ gweithwyr cymorth/ gweithwyr allweddol mewn gwasanaethau preswyl, dydd neu wasanaethau cartref
  • Cefnogi gweithwyr mewn prosiectau byw â chymorth

Ar ôl cwblhau'r fframwaith prentisiaeth hwn, bydd yr ymgeisydd yn derbyn y cymwysterau a'r tystysgrifau canlynol:

  • Diploma Lefel 3 City & Guilds mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion)
  • Sgiliau Hanfodol Cymru - Cymhwyso Rhifau Lefel 2, Cyfathrebu Lefel 3 a TGCh Lefel 1
  • Prentisiaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Am wybodaeth bellach cyfeiriwch at y fframwaith llawn.


Prentisiaeth Sylfaen mewn Iechyd Lefel 2 (Cymorth Gofal Iechyd ClinigolCymraeg

Bydd y rhaglen hon yn arwain ac yn asesu datblygiad gwybodaeth a sgiliau'r rhai a gyflogir o fewn rolau gwasanaethau cymorth clinigol, er enghraifft mewn rolau sy'n darparu cymorth hanfodol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n diagnosio, yn trin ac yn gofalu am gleifion. Maent yn gweithio mewn gwasanaethau clinigol fel meddygol, llawfeddygol, cleifion allanol, y gymuned ac adrannau damweiniau ac achosion brys. Maent yn ymwneud â gofalu am lesiant a chysur cleifion mewn rolau fel:

  • Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Clinigol
  • Cynorthwyydd Gofal Iechyd

Ar ôl cwblhau'r fframwaith prentisiaeth hwn, bydd yr ymgeisydd yn derbyn y cymwysterau a'r tystysgrifau canlynol:

  • Diploma Lefel 2 Agored Cymru mewn Cymorth Gofal Iechyd Clinigol
  • Cymhwyso Hanfodol Sgiliau Rhifau Lefel 1 a Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 1
  • Dyfarniad Lefel 2 City and Guilds mewn Cyflogaeth a Sgiliau Dysgu Personol mewn Iechyd
  • Prentisiaeth Sylfaen mewn Iechyd (Cymorth Gofal Iechyd Clinigol)

Am wybodaeth bellach cyfeiriwch at y fframwaith llawn.


Prentisiaeth mewn Iechyd Lefel 3 (Cymorth Gofal Iechyd ClinigolCymraeg

Bydd y rhaglen hon yn arwain ac yn asesu datblygiad gwybodaeth a sgiliau'r rhai a gyflogir o fewn rolau gwasanaethau cymorth clinigol, er enghraifft mewn rolau sy'n darparu cymorth hanfodol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n diagnosio, yn trin ac yn gofalu am gleifion. Byddant yn gweithio ym maes gwasanaethau clinigol neu'n darparu cymorth i barafeddygon sy'n ymateb i alwadau brys. Efallai fod ganddyn nhw rôl oruchwylio a chael eu cyflogi fel;

  • Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Clinigol
  • Cynorthwyydd Gofal Brys

Ar ôl cwblhau'r fframwaith prentisiaeth hwn, bydd yr ymgeisydd yn derbyn y cymwysterau a'r tystysgrifau canlynol:

  • Diploma Lefel 3 City & Guilds mewn Cymorth Gofal Iechyd Clinigol
  • Cymhwyso Hanfodol Sgiliau Rhifau Lefel 2 a Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 2
  • Dyfarniad Lefel 3 City and Guilds mewn Cyflogaeth a Sgiliau Dysgu Personol mewn Iechyd
  • Prentisiaeth mewn Iechyd (Cymorth Gofal Iechyd Clinigol)

Am wybodaeth bellach cyfeiriwch at y fframwaith llawn.

Dilynwch ni