Neidio i'r prif gynnwy

Recriwtio - Creu Cais am Swydd Wag

Mae'r Canllaw Creu Cais am Swydd Wag yn egluro'r broses ar gyfer cwblhau cais am hysbyseb electronig ar Trac.

Mae system Trac yn cwtogi ar ddyblygu ffurflenni, ac yn galluogi'r rheolwr sy'n penodi i olrhain y swydd wag o'r cyfnod cyn awdurdodi i gadarnhau'r dyddiad dechrau.
Gellir gweld yr agweddau hyn i gyd yn eich dangosfwrdd personol unigryw ar eich hafan Trac.

Yn ogystal â'r canllaw PDF, mae'r awgrymiadau a syniadau canlynol sy'n seiliedig ar gwestiynau cyffredin yn ddefnyddiol:

creating a vacancy FAQs

Cwestiynau ac atebion pellach...


C: Ble mae mewnbynnu am ba hyd y dymunaf i'r hysbyseb fod yn fyw?
A:
I gadarnhau am ba hyd y dymunwch i'r hysbyseb fod yn fyw, yn y maes 'Ychwanegu nodyn' ar waelod y dudalen, nodwch 7 diwrnod, 10 diwrnod neu 14 diwrnod ac ati.

C: A oes angen imi ddefnyddio'r tab Llunio Rhestr Hir?
A: 
Nac oes. Nid oes gofyn ichi ddefnyddio'r nodwedd hon. 

C: Pa feini prawf ydw i'n eu defnyddio yn yr adran llunio rhestr fer?
A:
 Gall meini prawf gael eu 'copïo a gludo' o'r fanyleb person. Dylai eich meini prawf gynnwys Hanfodol a Dymunol gan alluogi pawb sy'n llunio'r rhestr fer i asesu'r ymgeiswyr yn deg mewn perthynas â meini prawf llawn y swydd. 

C: Pa ddogfennau mewnol y dylwn eu hychwanegu?
A:
 Rhaid ychwanegu'r Ffurflen Iechyd Galwedigaethol (Cymraeg/Saesneg) at y maes 'Dogfennau Mewnol' gyda'r adran gyntaf yn cael ei chwblhau i adlewyrchu manylion y swydd. Gellir hefyd ychwanegu achos busnes os dymunwch. 

Ar ôl ichi gael at Trac, dilynwch bob un o'r camau isod:

 

Dilynwch ni