Neidio i'r prif gynnwy

Pa Hyfforddiant Gorfodol sy'n rhaid i mi ei wneud?

Dechreuwyr Newydd

Pan gynigir swydd i ddechreuwr newydd, rhoddir dyddiad iddynt hefyd fynychu Cyfnod Sefydlu Corfforaethol.   Ar yr adeg hon, byddant hefyd yn cael cyfarwyddiadau sut i gael mynediad at ESR i gwblhau eu hyfforddiant gorfodol, a fydd yn cynnwys y modiwlau y mae angen iddynt eu cwblhau. RHAID cwblhau'r holl Hyfforddiant Gorfodol o fewn 3 mis o'ch dyddiad cychwyn.

Staff Presennol

Bydd pa mor aml y bydd angen i chi gwblhau modiwl penodol yn dibynnu ar eich rôl.
Ar hyn o bryd, mae 13 modiwl sy'n cael eu dynodi'n rhai gorfodol, sef:

1. Diogelwch Tân
2. Iechyd a Diogelwch
3. Haint, Atal a Rheoli
4. Cydraddoldeb
5. Llywodraethu Gwybodaeth
6. Trin â Llaw
7. Trais ac Ymddygiad Ymosodol
8. Dadebru
9. Diogelu Oedolion
10. Diogelu Plant
11. Deddf Galluedd Meddyliol
12. Ymwybyddiaeth Dementia
13. Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

Fodd bynnag, nid yw'n ofynnol i bob aelod o staff gwblhau pob un o'r 13. I ddarganfod beth sydd angen i chi ei gwblhau, a pha mor aml, gwiriwch eich cofnod cydymffurfio ar ESR.   
Mae hwn yn cael ei ddiweddaru'n awtomatig wrth i chi gwblhau'r modiwlau gofynnol, ac mae ganddo system COG (Coch, Oren, Gwyrdd) i ddangos yr hyn sy'n gyfredol neu beth sydd angen ei wneud. Os ydych chi'n anghytuno â modiwl/lefel neu gyfnod gloywi, trafodwch â'ch Rheolwr Llinell, a fydd angen trafod y newidiadau y gofynnwyd amdanynt gyda LED.  

mandatory training compliance

Cliciwch 'View My Compliance' i gael y manylion:

mandatory compliance matirx

Dilynwch ni