Neidio i'r prif gynnwy

Gofalwyr Ifanc

Bachgen yn pwyso ar reilen

Diffinnir Gofalwyr Ifanc fel plant a phobl ifanc o dan 18 oed sydd â chyfrifoldebau gofalu am rywun sydd â salwch corfforol neu feddyliol, anabledd corfforol neu ddysgu, neu broblem cyffuriau neu alcohol.

Gall y person y maent yn gofalu amdano fod yn rhiant, brawd neu chwaer, nain neu daid neu berthynas arall. Gallant ddarparu gofal ymarferol neu gorfforol, helpu gyda gofal personol, a helpu gyda thasgau domestig a/neu gefnogaeth emosiynol.

Mae Gofalwyr Ifanc yn lleol wedi darparu'r diffiniad canlynol o'u rôl yn seiliedig ar eu profiadau personol.

“Mae gofalwr ifanc yn gofalu am rywun ag anabledd meddyliol neu gorfforol yn ei gartref. Maen nhw'n gofalu am yr unigolyn hwnnw trwy helpu gyda thasgau cartref, bod yno i helpu'n emosiynol neu'n gorfforol trwy wneud pethau fel rhoi bath iddyn nhw.

“Mae'r gofal maen nhw'n ei ddarparu nid yn unig y pethau rydych chi'n eu gweld, fel coginio, glanhau, newid rhwymynnau neu helpu rhywun gyda'r toiled, ond hefyd y pethau na allwch chi eu gweld, fel sut mae gofalwr yn meddwl neu'n teimlo am ei rôl ofalu”.

Cyngor a Chefnogaeth i Ofalwyr Ifanc

Mae'r YMCA yn cefnogi Gofalwyr Ifanc trwy redeg dau brosiect:

  • Prosiect Gofalwyr Ifanc 'Amser i Mi' (7-18 oed)
  • Prosiect Gofalwyr Ifanc sy'n Oedolion 'Amser am Fwy' (17-25 oed)

Cysylltwch â nhw trwy ffonio 029 2046 5250 Est 211, neu anfonwch e-bost i valeyoungcarers@ymcacardiff.wales neu cardiffyoungcarers@ymcacardiff.wales.

Fel arall, gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am gefnogaeth i ofalwyr ifanc ar-lein: Gwefan YMCA.

Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc

Mae’r Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc yn gerdyn syml i helpu gweithwyr proffesiynol gan gynnwys meddygon, athrawon a fferyllwyr i adnabod gofalwyr ifanc a’u cefnogi’n briodol. Gellir gwneud cais am gardiau drwy gysylltu â’r YMCA.

Cyngor Caerdydd

Cysylltwch â Phorth Teulu Caerdydd ar 03000 133 133 (ffôn rhad ac am ddim) neu e-bostiwch contactFAS@cardiff.gov.uk

Cyngor Bro Morgannwg

Cysylltwch â Llinell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf ar 0800 0327 322 neu e-bostiwch familiesadviceline@valeofglamorgan.gov.uk

Meic Cymru 

Mae Meic Cymru yn darparu llinell gymorth eiriolaeth, gwybodaeth a chyngor am ddim i blant a phobl ifanc. Maent ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos a gellir cysylltu â nhw ar 0808 8023456. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar-lein.

Tîm Iechyd Meddwl Sylfaenol

Mae'r Tîm Iechyd Meddwl Sylfaenol yn cwrdd â phobl ifanc (o dan 18 oed) a'u teuluoedd i helpu gydag ystod o anawsterau gan gynnwys pryder, hwyliau isel, straen ac anawsterau perthynas, i enwi ond ychydig. Gellir cysylltu â nhw ar 029 2053 6795. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth a chyngor pellach i bobl ifanc trwy Stepiau.

Am gyngor a chefnogaeth bellach gall Gofalwyr Ifanc gysylltu â'r Tîm Profiad Cleifion ar 029 2184 5692.

Fel arall, e-bostiwch pe.cav@wales.nhs.uk

Dilynwch ni