Neidio i'r prif gynnwy

BIP Di-fwg

Ysbytai Di-fwg

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (BIPCAF) wedi ymrwymo i iechyd a llesiant ei staff, ei gleifion a'i ymwelwyr.

Ni cheir ysmygu yn ysbytai nac ar diroedd BIP Caerdydd a'r Fro.

Mae hyn yn golygu nad yw staff, cleifion ac ymwelwyr yn gallu ysmygu ar unrhyw un o safleoedd yr ysbyty ledled Caerdydd a'r Fro ac mae'r defnydd o e-sigaréts wedi'i gyfyngu y tu mewn i adeiladau'r ysbyty.  

Bydd unrhyw un a welir yn taflu sigaréts ar y safle yn wynebu Hysbysiad Cosb yn y fan a'r lle o £80. Gweler ein Cwestiynau Cyffredin am fwy o wybodaeth ar yr Hysbysiadau Cosb.

Dewch o hyd i'ch Gwasanaeth Rhoi'r Gorau i Ysmygu agosaf

Helpa Fi i Stopio

Mae 'Helpa Fi i Stopio' yn bwynt mynediad sengl newydd ar gyfer holl wasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu'r GIG ledled Cymru. Amcangyfrifir yr hoffai dwy ran o dair o ysmygwyr roi'r gorau iddi, ac rydych bedair gwaith yn fwy tebygol o roi'r gorau i ysmygu trwy gyfuno help gan wasanaeth cymorth arbenigol y GIG â meddyginiaeth rhoi'r gorau i ysmygu. Ymhlith y gwasanaethau stopio ysmygu GIG sydd ar gael o Helpa Fi Stopio, mae Dim Smygu Cymru, Gwasanaethau Fferylliaeth a Gwasanaethau Ysbyty.

Mathau o gymorth sydd ar gael

  • Grwpiau Dim Smygu Cymru
  • Un-i-un Dim Smygu Cymru
  • Cefnogaeth Ffôn Dim Smygu Cymru
  • Fferyllfeydd Cymunedol
  • Gwasanaethau ysbyty ar gyfer menywod beichiog a grwpiau cleifion dethol

Pan fyddwch chi'n penderfynu rhoi'r gorau i ysmygu, nid oes rhaid i chi wneud yr ymdrech hon ar eich pen eich hun. Cysylltwch â'r Ganolfan Gyswllt Helpa Fi Stopio:

Mae holl Wasanaethau Stopio Ysmygu'r GIG yn cynnig cefnogaeth a chyngor cyfeillgar a fydd yn eich helpu i roi'r gorau i ysmygu a pharhau i beidio ag ysmygu.

Gwasanaeth Rhoi'r Gorau i Ysmygu BIP Caerdydd a'r Fro

Mae'r gwasanaeth ysbyty yn cefnogi'r holl gleifion allanol, cleifion mewnol a'u partneriaid, rhieni cleifion pediatreg a staff i roi'r gorau i ysmygu. Mae'r gwasanaeth ysbyty hwn yn cynnig cymorth ymddygiad un-i-un dwys tymor hir.

Gallwch wneud apwyntiad trwy gysylltu â:

  • Helen.Poole@wales.nhs.uk
  • Ffôn: 029 2184 3582

Hyfforddiant Staff

Mae hyfforddiant Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (MECC) am ddim ar gael i holl staff BIP Caerdydd a'r Fro. Bydd yr hyfforddiant yn rhoi hyder a sgiliau i chi drafod ysmygu yn anffurfiol gydag ysmygwyr ar dir yr ysbyty. Yn dilyn yr hyfforddiant, byddwch yn gallu:

  • gofyn y cwestiynau cywir
  • cyflwyno cyngor byr
  • cyfeirio ysmygwyr tuag at wybodaeth a gwasanaethau iechyd perthnasol.

I gofrestru neu i gael rhagor o wybodaeth am yr hyfforddiant, cysylltwch ag Elin.Evans5@wales.nhs.uk

Dilynwch ni