Mae plant yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg yn cael cynnig brechlynnau ffliw heb nodwydd am ddim.
Mae'r chwistrell trwynol yn darparu ffordd gyflym a di-boen i amddiffyn pobl ifanc rhag ffliw tymhorol.
Mae nifer y plant sy'n gymwys i gael y chwistrell ffliw am ddim yn cael ei ehangu bob blwyddyn.
O hydref 2018 ymlaen, bydd pob plentyn 2 oed a hŷn nad yw eto yn yr ysgol, a phob plentyn yn yr ysgol gynradd (Derbyn hyd at Flwyddyn 6 yn gynhwysol) yn gymwys.
Bydd gwybodaeth i rieni yn cael ei hanfon adref gyda disgyblion cyn cynnal sesiynau.
Dylech dderbyn ffurflen gydsynio gan eich ysgol/nyrs ysgol ond os ydych wedi ei cholli neu eisiau copi arall, defnyddiwch y ddolen uchod.