Neidio i'r prif gynnwy

Pryderon a Chwynion

Os ydych yn anfodlon ar y driniaeth neu'r gofal rydych chi'n eu cael, rydym yn eich annog i godi eich pryderon cyn gynted ag sy'n bosibl, a hynny os oes modd gydag aelod uwch o staff ar ddyletswydd adeg y digwyddiad neu'r rheolwr ward, ysbyty neu gymunedol priodol. Fel arall, cysylltwch ag aelod o'r Adran Bryderon a bydd yn hapus i drafod eich pryderon gyda chi a'u trosglwyddo i'r adran berthnasol.

Mae'r Swyddfa Bryderon ar agor ar yr amseroedd canlynol:

Dydd Llun 7.30am i 4pm
Dydd Mawrth 7.30am i 4pm
Dydd Mercher 7.30am i 6pm
Dydd Iau 7.30am i 4pm
Dydd Gwener 7.30am i 4pm

Ffoniwch y rhifau canlynol yn ystod oriau swyddfa os hoffech siarad ag aelod o'r Tîm Pryderon. 

  • 029 218 36318

Gallwch hefyd lenwi ein Ffurflen Bryderon, e-bostio'r tîm yn concerns@wales.nhs.uk neu ysgrifennu at y Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Maes y Coed Road, Llanisien, Caerdydd CF14 4HH.

 

Heblaw mewn amgylchiadau eithriadol, dylid gwneud cwyn cyn gynted ag sy'n bosibl mewn perthynas â'r broblem sy'n codi. Os oes rheswm da dros beidio â gallu cwyno'n gynharach, efallai y bydd yn bosibl ymchwilio i'ch pryderon o hyd, os nad aeth blwyddyn heibio.  

Ar ôl llenwi'r ffurflen gwyno, gallwch ei hanfon mewn e-bost i: concerns@wales.nhs.uk (cewch e-bost i gydnabod eich neges ymhen dau ddiwrnod gwaith), neu yn y post at y:

Prif Weithredwr
Pencadlys Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Woodland House
Maes y Coed Road
Caerdydd
CF14 4HH

Cewch gyflwyno cwyn ar ran rhywun arall. Fodd bynnag, bydd rhaid i'r Bwrdd Iechyd ofyn am ganiatâd gan y sawl dan sylw (os yw dros 18 oed a bod ganddo/ganddi'r galluedd) i ymchwilio i'r materion a godwyd.

Byddem yn eich annog i gysylltu â'r Adran Gwynion yn y lle cyntaf i geisio datrys eich pryderon yn amserol ac anffurfiol. Os nad ydych yn fodlon ar unrhyw gamau gweithredu anffurfiol, yna byddwch yn gallu cyflwyno cwyn ffurfiol o hyd. 

Byddwch yn cael llythyr cydnabod ymhen dau ddiwrnod gwaith o gael eich cwyn ffurfiol. Bydd y llythyr hwn yn rhoi manylion cyswllt y Cydlynydd Cwynion i chi sy'n prosesu eich cais. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso ichi gysylltu â'r sawl hwn. 

Y nod yw sicrhau y cewch chi ymateb ysgrifenedig i'ch cwyn ymhen 30 diwrnod gwaith. Fodd bynnag, os oes angen ymchwiliad manylach, gall y Bwrdd Iechyd gymryd hyd at 6 mis i gwblhau ei ymchwiliad. 

Mewn amgylchiadau eithriadol, gall ymchwiliad gymryd mwy na 6 mis. Ar adegau, efallai y gofynnwn a hoffech gwrdd ag aelodau o'r tîm clinigol a fydd yn trafod eich cwyn gyda chi. Gall hyn fod cyn, yn ystod neu ar ôl yr ymchwiliad. 

Rhown bwys mawr ar unrhyw adborth a gawn a'r ffordd y byddwn yn rheoli ac yn ymchwilio i bryderon sydd gennych. Drwy ddeall pam mae gan ein cleifion achos i gwyno, gallwn wella ansawdd y gofal a'r driniaeth a roir i unrhyw un sy'n defnyddio ein gwasanaethau. 

Os hoffech roi adborth ar ôl codi pryder gyda ni, llenwch y ffurflen isod ac anfon e-bost i'r cyfeiriad uchod. 

 

Pryderon Feddygon, Deintyddion, Fferyllwyr ac Optegwyr

Os oes gennych bryder am wasanaethau a gawsoch gan eich meddygon teulu, deintyddion, fferyllwyr cymunedol ac optegwyr, mae gan y gwasanaethau hyn eu gweithdrefnau pryderon eu hunain. Cysylltwch â'r staff yn y practis perthnasol a fydd yn gallu rhoi gwybod ichi sut mae codi pryder gyda hwy. 

Dilynwch ni