Neidio i'r prif gynnwy

Rhoi'r Gorau i Ysmygu

Rhoi'r gorau i ysmygu yw'r un peth gorau y gall rhywun ei wneud i wella'i iechyd.

Ysmygu yw prif achos unigol afiechydon y gellir eu hatal yng Nghymru, ac mae'n un o achosion pennaf annhegwch iechyd. Er cynnydd sylweddol o ran gostwng nifer y bobl sy'n ysmygu, mae data Arolwg Iechyd Cymru 2015 yn dangos bod tua 490,000 o oedolion yn parhau i ysmygu yng Nghymru. Hefyd, mae'r arolwg yn dangos bod dros 2 o bob 3 o ysmygwyr eisiau rhoi'r gorau iddi ac mae oddeutu 40% o ysmygwyr yn mynd ati i geisio rhoi'r gorau iddi bob blwyddyn.  

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed blynyddol uchelgeisiol i drin 5% o'r boblogaeth sy'n ysmygu trwy wasanaethau'r GIG ar roi'r gorau i ysmygu ac i ostwng cyfraddau'r oedolion sy'n ysmygu i 16% erbyn 2020. 

GOFYNNWCH

"A oes diddordeb gennych mewn rhoi'r gorau i ysmygu?"

CYNGHORWCH
  • Rhowch y gorau i ysmygu yn hytrach nag ysmygu llai
  • Dyma'r peth pwysicaf y gallwch chi ei wneud er budd eich iechyd.
  • Mae buddion rhoi'r gorau i ysmygu yn dechrau'n syth. Nid yw hi fyth yn rhy hwyr i roi'r gorau i ysmygu.
  • O fewn tridiau, bydd eich gallu blasu ac arogleuo yn dechrau gwella, bydd anadlu'n dod yn haws a bydd lefelau eich egni yn codi. Ar ôl blwyddyn, bydd eich risg o gael trawiad ar y galon yn disgyn i hanner risg ysmygwr.
  • Mae rhoi'r gorau i ysmygu yn arbed arian. Bydd rhoi'r gorau i ysmygu 20 sigarét y dydd yn arbed dros £2,000 y flwyddyn i chi.
  • Yr un yw risg pobl sy'n anadlu mwg ail-law ac ysmygwyr o gael llawer o'r un clefydau, gan gynnwys canser a chlefyd y galon. 
  • Mae risg broncitis, niwmonia, pyliau asthma a heintiau'r glust yn uwch i blant sy'n dod i gysylltiad â mwg ail-law.
  • Mae llawer o gymorth ar gael i roi'r gorau i ysmygu.  Rydych chi bedair gwaith yn fwy tebygol o roi'r gorau i ysmygu trwy ddefnyddio Gwasanaeth Rhoi'r Gorau i Ysmygu'r GIG nag os byddwch wrth geisio gwneud ar eich pen eich hun.
GWEITHREDWCH

Gall gweithwyr iechyd proffesiynol atgyfeirio pobl i wasanaeth rhoi'r gorau i ysmygu'r GIG, Helpa Fi i Stopio

Mae Helpa Fi i Stopio'n cynnwys yr holl wasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu yng Nghymru. Mae'n cynnwys Rhoi'r Gorau i Ysmygu Cymru, Gwasanaethau Ysbyty a Fferyllfeydd Cymunedol (ymhlith gwasanaethau eraill mewn rhai ardaloedd o Gymru). 

Cynigiant gymorth i ysmygwyr mewn llawer o leoliadau cymunedol a hynny mewn grwpiau neu sesiynau un i un, yn ogystal â sesiynau dros y ffôn.

Ewch i wefan Helpa Fi i Stopio i gael rhagor o wybodaeth.

Gall ysmygwyr gael eu hatgyfeirio trwy sefydliad arall, fel eu Gweithiwr Iechyd Proffesiynol (e.e. Meddyg Teulu, Deintydd neu Fydwraig), cynllun awdurdod lleol, y gweithle neu trwy sefydliad trydydd sector.

Gall cyfrifon personol ar gyfer eich sefydliad gael eu creu trwy'r system e-gyfeirio, sef Quit Manager, neu gallwch ddefnyddio ffurflen atgyfeirio ar-lein Helpa Fi i Stopio ar gyfer gweithwyr proffesiynol.

Bydd yr atgyfeiriadau hyn yn cael eu prosesu o fewn 48 awr ac yna bydd tîm canolfan gyswllt Helpa Fi i Stopio yn ffonio'r cleient yn uniongyrchol, o rif preifat/rhif sy'n cael ei atal.

I gael rhagor o wybodaeth am sefydlu llwybr atgyfeirio, e-bostiwch dîm Helpa Fi i Stopio: helpmequit@wales.nhs.uk

Gallant gyfeirio'u hunain hefyd trwy ffonio 0800 085 2219, mynd i wefan Helpa Fi i Stopio, neu trwy decstio "HMQ" i 80818.

Yn achos cleifion yn Ysbyty Athrofaol Cymru neu Ysbyty Athrofaol Llandochau - atgyfeiriwch nhw i'r gwasanaeth mewnol ar roi'r gorau i ysmygu.

Dilynwch ni