Neidio i'r prif gynnwy

Bod yn Egnïol yn Gorfforol

 

Mae bod yn gorfforol egnïol yn helpu i gynnal llesiant corfforol a meddyliol, ac yn atal afiechyd. Gall leihau'r risg o lawer o gyflyrau cronig, fel clefyd coronaidd y galon, strôc, diabetes math 2, canser, gordewdra, problemau iechyd meddwl a chyflyrau cyhyrysgerbydol. Dyma’r “cyffur gwyrthiol” yr hoffai’r GIG ei ragnodi i bawb. Mae ffigurau Sefydliad Iechyd y Byd yn dangos bod anweithgarwch corfforol yn cyfrif am amcangyfrif o 9% o farwolaethau cynamserol.

Mae argymhellion y Prif Swyddog Meddygol yn nodi y dylai oedolion anelu at fod yn egnïol bob dydd. Dros wythnos, dylai gweithgaredd fod yn gyfanswm o o leiaf 150 munud (2½ awr) o weithgaredd cymedrol mewn pyliau o 10 munud neu fwy, a dylai pawb leihau faint o amser a dreulir yn eistedd neu'n segur.

Nid yw dros 40% o oedolion Caerdydd a’r Fro yn gwneud digon o weithgarwch corfforol rheolaidd, gan gynnwys bron i draean (30%) sy’n cael eu hystyried yn ‘anweithgar’, sy’n cymryd rhan mewn llai na hanner awr o weithgarwch corfforol bob wythnos. Mae gweithgaredd corfforol yn hybu iechyd cardiofasgwlaidd a lles meddyliol.

 

GOFYNNWCH

"A yw bod yn fwy gweithgar o ddiddordeb i chi?"

CYNGHORWCH
  • Symudwch fwy, yn fwy aml
  • Anelwch at o leiaf 150 munud o weithgarwch cymedrol i egnïol yr wythnos, gan gynnwys rhywfaint o weithgarwch corfforol bob dydd, mewn pyliau o 10 munud neu fwy 
  • Mae bod yn weithgar yn helpu i ostwng a chynnal pwysau, mae'n gostwng straen ac yn codi hwyliau, mae'n cryfhau esgyrn a chyhyrau, ac mae'n gostwng risg datblygu cyflyrau a chlefydau cronig, gan gynnwys clefyd y galon, diabetes a strôc
  • Cynghorwch eich cleient i roi cynnig ar y canlynol:
    • Cynnwys cerdded a beicio mewn arferion bywyd bob dydd trwy gerdded i'r siopau, i'r gwaith, i'r ysgol, neu wrth ymweld â theulu a ffrindiau 
    • Mynd allan am dro sionc bron bob dydd 
    • Defnyddio'r parciau a'r mannau gwyrdd ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg 
    • Gwneud llai o ddefnydd o'r car a defnyddio cludiant cyhoeddus 
    • Rhoi cynnig ar weithgareddau newydd mewn canolfannau lleol, gan gynnwys cryfder a chydbwysedd i bobl hŷn 
GWEITHREDWCH

Cyfeiriwch y cleient at:

 

Dilynwch ni