Neidio i'r prif gynnwy

Gwybod am Imiwneiddiadau a Brechiadau

 

Mae imiwneiddio'n achub bywydau

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn amcangyfrif bod 3 miliwn o fywydau'n cael eu hachub bob blwyddyn ledled y byd trwy imiwneiddio, er na fyddwn fyth yn gwybod pa unigolion sy'n fyw oherwydd iddynt gael eu himiwneiddio pan oeddent yn blant. 

Fodd bynnag, mae llawer iawn i'w wneud o hyd yn fyd-eang - mae 400,000 o blant o hyd yn marw bob blwyddyn dim ond o'r frech goch, er bod brechlyn effeithiol a diogel wedi bod ar gael ers dros 30 mlynedd.

 

Mae'n bwysig bod pob plentyn a baban yn cael ei imiwneiddio 

Mae afiechydon a fu unwaith yn gyffredin, fel difftheria a thetanws, bellach yn brin oherwydd imiwneiddio. Er datgan yn 2002 bod polio wedi'i ddileu o Ewrop trwy imiwneiddio, nid yw bygythiad clefydau eraill, fel y frech goch a meningitis, wedi diflannu yn y DU heddiw.

Mae risgiau brechu yn fach iawn o gymharu â risgiau cael y clefydau eu hunain

Mae rhai rhieni'n cael eu darbwyllo i beidio brechu oherwydd honiadau a glywant ac a ddarllenant yn y wasg am risgiau rhai brechlynnau. Yn y 1970au, arweiniodd dychryn am frechlyn yn y DU at gwymp yn nifer yr imiwneiddiadau rhag y pâs; arweiniodd hyn at dros 100,000 achos o'r pâs ac amcan o 100 o farwolaethau yn y blynyddol canlynol, gyda nifer fawr yn cael difrod parhaol i'r ymennydd o ganlyniad i'r afiechyd. 

Yn ddiweddarach, dywedodd yr astudiaeth a sefydlwyd i ymchwilio i'r risg fod adweithiau acíwt yn digwydd, ond bod gwelliant llawn yn arferol, ac nad oedd digon o dystiolaeth i ddweud bod DTP yn cynyddu risg gyffredinol niwed hirdymor.

Heddiw, er i'r ddamcaniaeth bod cysylltiad rhwng MMR ac awtistiaeth gael ei thanseilio'n drylwyr gan lefel enfawr o dystiolaeth ymchwil, nid yw'r neges hon wedi cyrraedd lleiafrif eto. 

Mae gohirio brechu plentyn heb wrtharwyddion clinigol yn dwyn risgiau clefydau sy'n fwy o lawer na risg imiwneiddio 

Yn yr un modd â phopeth mewn bywyd, mae'r penderfyniad i imiwneiddio yn gydbwysedd o risgiau, ond mae imiwneiddio rheolaidd i blant yn arbed bywydau.

 

GOFYNNWCH

"A ydych chi / A yw eich plentyn wedi cael eich / ei imiwneiddiadau diweddaraf?"

CYNGHORWCH
  • Mae cadw i fyny â'ch imiwneiddiadau yn ffordd ddiogel a chyflym o'ch amddiffyn chi, eich teulu a'ch ffrindiau rhag clefydau difrifol 
  • Mae imiwneiddiadau ar gael i amddiffyn rhag amrywiaeth fawr o afiechydon difrifol mewn plant ac oedolion, gan gynnwys y frech goch, y ffliw, y pâs, canser ceg y groth a meningitis.
GWEITHREDWCH

Cyfeiriwch y cleient at:

 

Dilynwch ni