Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Gwella Clwyfau

Mae gan yr Uned Ymchwil i Wella Clwyfau ym Mhrifysgol Caerdydd enw da rhyngwladol am ymchwilio i glwyfau dynol acíwt a chronig, yn enwedig lle bo'r rhain yn glwyfau sy'n gwrthod gwella neu'n glwyfau anodd. Cynigiwn gynhyrchion a gwasanaethau mewn gofal clinigol, rheoli prosiectau, ymchwil ac addysg.  

Sefydlwyd yr uned ym 1991, sef yr uned ymchwil gyntaf yn y byd i arbenigo yn y pwnc hwn, ac anelwn at ddarparu a pharhau i ddatblygu adnodd gwella clwyfau clinigol, gwyddonol ac addysgiadol o'r radd flaenaf er budd pobl â phroblemau clwyfau. Rydym megis rhyngwyneb rhwng darparwyr gofal iechyd, y diwydiant a'r gymuned academaidd i ddatblygu modelau o ofal o ansawdd uchel ar sail ymchwil gwyddonol cadarn. Trosglwyddo gwybodaeth i gleientiaid yw un o'r amcanion allweddol i sicrhau bod cynnyrch newydd yn cael ei ddatblygu yn unol ag anghenion cleifion a chlinigol.