Neidio i'r prif gynnwy

Profiad Gwaith

Mae gan y Bwrdd Iechyd Prifysgol ystod eang o leoliadau profiad gwaith ad-hoc ar gyfer myfyrwyr ysgol ac oedolion ifanc yn ardal Caerdydd a'r Fro, sy'n cael eu cydlynu'n uniongyrchol gan reolwyr llinell. Gall profiad gwaith fod o fudd i'r unigolyn a'r Bwrdd Iechyd. Mae myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth ddyfnach o sut mae gofal iechyd yn gweithio a'r amryw wahanol rolau sy'n gysylltiedig â darparu gwasanaeth iechyd. Ar yr un pryd, trwy ddarparu lleoliadau strwythuredig a llawn gwybodaeth, mae'r Bwrdd Iechyd yn cael cyfle i ddenu pobl ifanc i'n gweithlu yn y dyfodol. 

Myfyrwyr Ysgol / Coleg (Blynyddoedd 10 – 13)

Mae'n bosibl y bydd myfyrwyr 14-18 oed sydd mewn addysg amser llawn yn gallu cymryd rhan mewn profiad gwaith gyda ni. Cyn cysylltu, meddyliwch am beth yr hoffech ei wneud a pha faes y mae gennych ddiddordeb ynddo (e.e. gweinyddiaeth, therapïau, nyrsio ac ati). Mae rhagor o wybodaeth am yr adrannau a'r gwasanaethau amrywiol rydym yn eu cynnig fel Bwrdd Iechyd ar gael ar y dudalen 'Ein Gwasanaethau' (D.S. nid yw pob maes yn cynnig cyfleoedd profiad gwaith).

SYLWCH, RYDYM AR GAU AR HYN O BRYD AR GYFER CEISIADAU PROFIAD GWAITH NEWYDD. BYDDWN YN DIWEDDARU'R DUDALEN HON UNWAITH Y BYDD EIN PROFIAD GWAITH YN AILAGOR.

Pan fyddwch yn gwybod pa faes y mae gennych ddiddordeb ynddo, anfonwch eich manylion at y Cydlynydd Profiad Gwaith trwy neges e-bost, gan atodi llythyr sy'n esbonio pam mae gennych ddiddordeb. Wedi hynny byddwn yn anfon eich manylion ymlaen i'r adran berthnasol. Mae'n bwysig iawn eich bod yn rhoi gwybod i ni ba adran y mae gennych ddiddordeb ynddo neu ni fyddwn yn gallu anfon eich manylion ymlaen. Os derbynnir eich cais, bydd yr adran yn cysylltu â chi'n uniongyrchol i wneud y trefniadau angenrheidiol.

Sylwch fod angen o leiaf dri mis i sefydlu lleoliad profiad gwaith. 

Cyfnodau Dewisol i Israddedigion yn yr Ysgol Meddygaeth

Yn anffodus, nid yw'r Ysgol Meddygaeth yn gallu delio â rhagor o geisiadau am gyfnodau clinigol dewisol ar hyn o bryd. Cadwch lygad ar y dudalen hon am ddiweddariadau.

Cysgodi Meddyg/Llawfeddyg

Nid yw'r Bwrdd Iechyd Prifysgol yn cynnig lleoliadau profiad gwaith meddygol nac yn caniatáu i fyfyrwyr gysgodi meddygon. Os yw'r myfyriwr yn y Chweched Dosbarth, gall wneud cais am le ar y Rhaglen Arsylwi Gwaith Meddygol. Mae'r rhaglen hon yn cael ei chynnal drwy gydol yr haf ac yn rhoi blas ar yr hyn sy'n gysylltiedig â meddygaeth. (Sylwch nad yw'r rhaglen hon ar gael i unrhyw un sydd eisoes wedi cwblhau gradd mewn meddygaeth.) I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r Ganolfan Israddedigion ar 029 2074 5261. 

Cyflogaeth

Os ydych yn ceisio cyflogaeth am dâl gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, gallwch weld ein rhestr lawn o swyddi gwag ar wefan Swyddi'r GIG: www.jobs.nhs.uk

Gallwch gael rhagor o wybodaeth gan Dimau Recriwtio Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP).

Rhif ffôn y ddesg gymorth: (029) 20 905353

Cyfeiriad e-bost: Recruitment.ServiceSE@wales.nhs.uk

Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) 
Gwasanaeth Recriwtio De-ddwyrain Cymru 
4ydd Llawr Tŷ'r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd
CF14 3UZ

Cyfleoedd Gwirfoddoli

Peidiwch â chysylltu â'r Tîm Gwasanaethau Gwirfoddol gydag ymholiadau ynglŷn â phrofiad gwaith gan na fyddant yn gallu eich helpu. Maen nhw'n ymdrin â chyfleoedd gwirfoddoli yn unig.
 

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli gyda ni, edrychwch ar ein hadran ar Wirfoddoli