Neidio i'r prif gynnwy

Ardal i Gleifion a Rhieni

Y staff sy'n gofalu am eich plentyn ddylai fod yn bwynt cyswllt cyntaf i chi ynghylch unrhyw ymholiadau am glefyd eich plentyn ar yr arennau neu'ch clefyd chi, oherwydd nhw fydd â'r wybodaeth sy'n benodol i chi. 

Erbyn hyn, mae'r rhyngrwyd yn darparu llu o wybodaeth amrywiol am bob pwnc, llawer ohono'n addysgiadol iawn. Fodd bynnag, rhaid cofio efallai nad yw rhywfaint o wybodaeth sy'n ymddangos ar y rhyngrwyd yn dod o ffynonellau dibynadwy. Mae ychydig wefannau'n sy'n cael eu hargymell:
  • Mae llawer o waith wedi'i wneud gan weithwyr iechyd proffesiynol sy'n ymwneud â gofal plant â chlefyd yr arennau i ddarparu gwybodaeth ddibynadwy, o ansawdd uchel, i gleifion a rhieni ac mae'r wybodaeth hon ar gael ar wefan infoKID. Mae'n darparu gwybodaeth am glefydau'r arennau, profion, triniaeth a dolenni i ffynonellau eraill. 
  • Efallai bod eich plentyn wedi'i gofrestru mewn astudiaeth sy'n bwrw golwg ar y dylanwad genynnol ar ei glefyd, a hynny trwy gofrestrfa clefydau prin Radar. Mae'r wefan hefyd yn cynnwys gwybodaeth i gleifion am y cyflyrau sy'n cael eu hastudio. Cliciwch ar bennawd y "Patient Info".
  • Gall trosglwyddo o wasanaethau pediatrig i wasanaethau oedolion fod yn amser anodd i gleifion â chlefyd cronig yr arennau. Mae rhaglenni ar waith gan yr unedau yng ngogledd a de Cymru i helpu gyda'r broses hon. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y dudalen trosglwyddo.
  • Yn ogystal, mae'n bosibl gweld canlyniadau'ch profion chi/canlyniadau profion eich plentyn, ynghyd â meddyginiaethau a dolenni i wybodaeth arall trwy wefan Patient View. Siaradwch â'ch meddyg ymgynghorol arenneg bediatrig am sut i allu defnyddio'r cyfleuster hwn.
Byddem yn croesawu sylwadau gan gleifion a rhieni am sut y caiff gwasanaethau'r arennau i blant yng Nghymru eu trefnu. Os oes gennych rywbeth i'w ddweud am y gwasanaeth, boed dda neu ddrwg, neu sut i'w wella, siaradwch â'r meddyg ymgynghorol sy'n gofalu amdanoch chi/am eich plentyn neu e-bostiwch Dr Michelle James-Ellison neu Dr Graham Smith.

Dolenni i Wefannau: