Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau

Dylid cydnabod bod plant yng Nghymru'n cael gofal arenneg bediatrig trydyddol gan nifer o ganolfannau a hynny ar sail daearyddiaeth. Mae'r rhain yn cynnwys Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd; Ysbyty Plant Alder Hey, Lerpwl; Ysbyty Plant Birmingham ac Ysbyty Plant Bryste. 

Mae'r canllawiau isod (dogfennau Saesneg yn unig) yn cael eu cynhyrchu dan nawdd Ysbyty Athrofaol Cymru ac maent wedi'u hanelu at adrannau pediatrig yn ysbytai de a gorllewin Cymru sy'n gofalu am gleifion ar y cyd â'r uned yng Nghaerdydd. Os bydd cleifion yn derbyn gofal gan ganolfannau eraill, bydd angen i chi gyfeirio at eu canllawiau nhw.

Canllawiau wedi'u hanelu at ofal lefel eilaidd:

Canllaw ar gyfer asesu proteinwria

Canllaw ar gyfer rheoli anaf acíwt i'r arennau

Canllaw ar gyfer rheoli anaf acíwt i'r arennau yn y baban newydd-anedig

Canllaw ar gyfer rheoli gwaed yn y dŵr/hematwria

Canllaw ar gyfer rheoli pwrpwra Henoch Schonlein

Canllaw ar gyfer rheoli hypernatraemia

Canllaw ar gyfer rheoli gorbwysedd

Canllaw ar gyfer rheoli hyponatraemia

Canllaw ar gyfer rheoli asidosis metabolaidd

Canllaw ar gyfer rheoli syndrom neffrotig

Canllaw ar gyfer rheoli cerrig ar yr arennau

Canllaw ar gyfer mesur pwysedd gwaed

Canllawiau wedi'u hanelu at ofal lefel drydyddol:

Canllaw ar gyfer rheoli clefyd cronig yr arennau - anhwylder mwynau ac esgyrn (CKD-MBD)

Canllaw ar gyfer rheoli anemia

Canllaw ar gyfer rheoli Syndrom wremig hemolytig (HUS)

Canllaw ar gyfer rheoli hyperlipidaemia mewn plant â chlefyd yr arennau

Canllaw ar gyfer rheoli diffyg fitamin D mewn Clefyd Cronig yr Arennau

Rydym wrthi'n adolygu ein holl ganllawiau presennol a bydd yr uchod yn cael eu diweddaru pan fyddant ar gael.

Os oes gennych unrhyw sylwadau am ganllaw penodol, e-bostiwch Dr Graham Smith ar Graham.Smith3@wales.nhs.uk.

Cynhyrchwyd y canllawiau hyn yn ddidwyll gan yr awdur(on), gan adolygu'r holl dystiolaeth/farn sydd ar gael. Fe'u lluniwyd i'w defnyddio gan arenegwyr pediatrig yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, ar gyfer plant yn eu gofal. Nid ydynt yn bolisïau nac yn brotocolau a bwriedir iddynt fod yn ganllawiau yn unig. Ni fwriedir iddynt ddisodli crebwyll cinigol na phennu gofal cleifion unigol. Mae'r cyfrifoldeb a'r penderfyniadau (gan gynnwys gwirio dosys cyffuriau) ynghylch claf penodol yn perthyn i'r meddyg a'r staff sy'n gofalu am y claf penodol hwnnw.