Neidio i'r prif gynnwy

Clinigau Rhithwir


AccuRx

Os cawsoch wybod y bydd eich apwyntiad i'r clinig cleifion allanol yn cael ei gynnal gan ddefnyddio AccuRx, cewch neges destun adeg yr ymgynghoriad.

Pan fyddwch yn cael y neges destun, bydd angen i chi glicio ar y ddolen neu gopïo'r ddolen i Google Chrome neu Safari ar y ddyfais rydych chi am ei defnyddio, a byddwch yn mynd i mewn i ystafell ymgynghori rithwir. Yno, dylech allu sgwrsio â'ch meddyg ymgynghorol a'i weld.
Ni chodir tâl arnoch am ddefnyddio'r cyfleuster hwn, heblaw am unrhyw ddata a ddefnyddioch os nad oeddech chi'n defnyddio WiFi.
 

Attend Anywhere

Os cawsoch wybod y bydd eich apwyntiad i'r clinig cleifion allanol yn cael ei gynnal gan ddefnyddio Attend Anywhere, cewch neges destun yn cynnwys dolen ynghyd â dyddiad ac amser yr ymgynghoriad arfaethedig. Gall y ddolen gael ei defnyddio ar gyfer yr ymweliad hwn â'r clinig yn unig. 
Ar yr amser priodol, dylech ddefnyddio'r ddolen i fynd â chi i ystafell aros rithwir o'r enw "Canolfan yr Arennau i Blant". Gofynnir i chi roi ychydig fanylion (enw, dyddiad geni a rhif ffôn cyswllt) cyn y gallwch ymuno â'r alwad. Mae'r manylion hyn yn cael eu defnyddio dim ond i alluogi'ch meddyg i adnabod pa glaf y mae'n ymuno ag ef/â hi. 
 
Ar ôl yr alwad fideo, bydd y manylion hyn yn cael eu dileu. Bydd eich meddyg yn cael hysbysiad eich bod yn aros i gael eich gweld a bydd yn ymuno â chi pan fydd yr ymgynghoriad blaenorol wedi'i gwblhau. Mae'n bosibl i chi ddod â phobl eraill i mewn i'r alwad neu efallai bydd aelodau eraill y tîm meddygol yn ymuno â'ch meddyg. 
Nid oes hawl gan unrhyw un i recordio'r alwad a bydd pawb sy'n mynychu'r ymgynghoriad gyda chi yn cael eu cyflwyno. Gwnewch yn siwr bod y fersiwn fwyaf newydd o feddalwedd Google Chrome neu Safari ar eich gliniadur, llechen neu ffôn. Gweler y tabl isod am fanylion.
 
 
Ar gyfer dyfeisiau Apple sy'n defnyddio Safari e.e. iPad, iPhone, ewch i:
Settings > General > Software Update.
Os bydd diweddariad ar gael, cliciwch ar lawrlwytho a gosod.
Ar gyfer dyfeisiau Android/Windows sy'n defnyddio Google Chrome, e.e. Samsung, Huaewei, ewch i:
Play Store App > Menu > My Apps & Games > Updates.
Os bydd Google Chrome ar y rhestr, cliciwch ar 'update'.
Pan fydd hi'n amser ar gyfer eich clinig:
 
  • Naill ai agorwch Google Chrome neu Safari. Teipiwch y ddolen a anfonwyd atoch chi: https://nhswales.vc/cav-ckc i'r bar chwilio.
  • Gallwch brofi'ch system trwy glicio ar Test call.
  • I fynd i mewn i'r ystafell aros, cliciwch ar Start the video call a dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin. Gofynnir i chi roi ychydig o wybodaeth bersonol i mewn, fel enw, dyddiad geni, rhif ffôn, ac ati.
  • Darllenwch y canllawiau gwybodaeth ar y sgrin a, phan fyddwch yn barod, cliciwch ar Start Call. Gwnewch yn siwr eich bod yn clicio 'caniatáu' os gofynnir i chi, er mwyn defnyddio'r microffon, y camera a botymau caniatâd eraill.
  • Arhoswch yn ystafell aros y fideo; bydd eich clinigydd yn gweld eich bod yn aros a bydd yn ymuno â'r alwad.
Yn ystod eich galwad:
 
  • Os cewch unrhyw broblemau, defnyddiwch y botwm Refresh.
  • Osgowch bwyntio'r camera tuag at ffenestr neu olau llachar.
  • I ddewis camera neu ficroffon gwahanol, cliciwch ar eicon y camera ar y dde ar ochr uchaf y porwr, dewiswch y dyfeisiau perthnasol, yna cliciwch ar y botwm Refresh.