Neidio i'r prif gynnwy

Anaf acíwt i'r arennau

Mae sawl peth yn gallu achosi anaf acíwt i'r arennau (AKI) a gall ei ddifrifoldeb amrywio. Er y gellir ymdrin ag achosion llai difrifol yn yr ysbyty lleol, dylai achosion mwy difrifol sydd, efallai, angen dialysis, gael eu hatgyfeirio i'r ganolfan arenneg bediatrig briodol. Cyfeiriwch at y canllaw y mae eich prif ganolfan arenneg bediatrig yn ei gymeradwyo. Bydd gan fwyafrif y plant ag anaf acíwt i'r arennau elfen gynarennol ac mae adferiad hylifau yn sydyn yn bwysig, ac ar yr un pryd osgoi gorlwytho hylifau os bydd oligwria yn parhau.

Dyma'r prif arwyddion ar gyfer dialysis:
 
  • Gorlwyth hylif 
  • Hypercalemia
  • Asidosis
Y cyngor yw trafod achosion y gall fod angen dialysis arnynt gydag arenegwr pediatrig yn fuan.