Neidio i'r prif gynnwy

Prosiectau Partneriaid Allanol

Weithiau, rydym yn gweithio gyda phartneriaid allanol sy'n cynnig cyfleoedd gwirfoddoli i bobl ifanc. Os oes gennych ddiddordeb yn unrhyw un o'r cyfleoedd gwirfoddoli isod, ymwelwch â'u gwefan i wneud cais.

Make a Smile

 

16-25 oed. Gwisgo gwisgoedd cymeriadau Disney ac ymweld â wardiau plant yn Ysbyty'r Mynydd Bychan ac ardaloedd cymunedol eraill. Mae Make a Smile hefyd yn cynnal partïon 1940au/50au/60au mewn wardiau i'r henoed i helpu i godi ysbryd pobl.

Nid rôl wirfoddoli reolaidd yw hon bob wythnos, ond disgwylir y byddwch yn gwirfoddoli o leiaf unwaith y mis.

Cyflwynwch gais trwy Make a Smile