Neidio i'r prif gynnwy

Gwirfoddolwyr y Ganolfan Wybodaeth

 

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i’n helpu i roi gwybodaeth i ymwelwyr, cleifion, staff a gofalwyr sy’n defnyddio’r Canolfannau Gwybodaeth a Chymorth ar draws ein safleoedd ysbyty a’u cyfeirio at ffynonellau cymorth.  Bydd angen i wirfoddolwyr fod yn ddibynadwy, yn gyfeillgar, yn meddu ar sgiliau cyfathrebu da ac yn barod i gwblhau hyfforddiant.

Mae cyfleoedd ar gael yn:

  • Ysbyty Athrofaol Llandochau
  • Ysbyty Athrofaol Cymru
  • Ysbyty’r Barri

Bydd angen i wirfoddolwyr fod ar gael am o leiaf 2 awr yr wythnos (o ddydd Llun i ddydd Gwener) a gallu ymrwymo i o leiaf 6 mis o waith gwirfoddol gyda ni.

Bydd angen i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn i wneud cais am y rôl hon.

Ar gyfer y rownd hon o geisiadau, y dyddiad cau yw 30 Mehefin 2022.

Lawrlwythwch ddisgrifiad swydd Gwirfoddolwyr y Ganolfan Wybodaeth i gael rhagor o wybodaeth.

Darllenwch y Canllawiau Ymgeisio ar y dudalen we cyn gwneud cais am y rôl hon.

Ewch i dudalennau gwe’r Ganolfan Wybodaeth i gael rhagor o fanylion.