Neidio i'r prif gynnwy

Solace

Mae Solace yn wasanaeth o fewn MHSOP sy'n cefnogi gofalwyr di-dâl sy'n gofalu am eu hanwyliaid gyda diagnosis o ddementia neu nam gwybyddol.

Mae'r term 'gofalwr' yn cyfeirio at berthnasau neu ffrindiau sy'n rhoi cymorth yn gorfforol, yn emosiynol ac yn gymdeithasol yn ddi-dâl. Defnyddir y term i wahaniaethu teulu a ffrindiau oddi wrth weithwyr proffesiynol fel gweithwyr gofal a gweithwyr cartref.

Mae gofalu am bartner, perthynas neu ffrind agos sydd ag anawsterau iechyd meddwl yn gallu bod yn heriol ac yn llawn straen ac mae'n bwysig cydnabod bod anghenion gofalwr mor arwyddocaol â'r person maen nhw'n gofalu amdano. 

Mae gwirfoddolwyr Solace yn cefnogi staff gyda grwpiau sy'n cael eu rhedeg yn y gymuned. Mae'r grwpiau hyn yn cynnig cefnogaeth i'r person sy'n byw gyda dementia a'u gofalwr drwy weithgareddau ystyrlon fel gemau, cerddoriaeth, tai chi, celf a chrefft a chwisiau.

 

Cynhelir Grwpiau Solace ar ddydd Mawrth 1pm-3pm yn y Tyllgoed neu ddydd Gwener 11am-1pm yn y Barri. Rhaid i ymgeiswyr fod ar gael am o leiaf 6 mis. 

 

 

 

Lawrlwythwch y disgrifiad o rôl Gwirfoddolwr Solace i gael rhagor o wybodaeth

Darllenwch y dudalen we Canllawiau Ymgeisio cyn gwneud cais am y rôl hon.

Yr oedran lleiaf ar gyfer y rôl hon yw 16.
 

Ceisiadau yn agor 23/02/2024 ac yn cau 31/03/2024. Gwnewch gais yma.