Neidio i'r prif gynnwy

Creadigol

Darllenwch y dudalen Canllawiau Ymgeisio cyn gwneud cais am y rolau hyn.

Nid yw'r rôl hon yn cynnwys cwnsela na therapi celf.

Rhaid i chi fod yn 16 oed neu'n hŷn i wneud cais am un o'r rolau hyn.

 

Ceisiadau’n agor 24/09/2023 ac yn cau ar 29/10/2023

 

 

Gwirfoddolwr Celf a Chrefft

Mae Gwirfoddolwyr Celf a Chrefft yn gwella lles cleifion ar ein wardiau trwy sesiynau creadigol, o dynnu llun i wneud cardiau - pa bynnag ddiddordeb neu hobi creadigol y mae’r gwirfoddolwr yn dymuno ei rannu!

Ffocws y sesiynau yw’r gweithgaredd, yr ymgysylltu a’r cyfranogiad ei hun yn hytrach na’r cynnyrch gorffenedig.

Mae’n bwysig cofio nad dosbarthiadau celf yw’r sesiynau hyn, ond cyfle i bobl ddod at ei gilydd, canolbwyntio, cymdeithasu a bod ag annibyniaeth dros sut a beth maent yn ei ddarlunio/gwneud. Pwrpas y prosiect yw lleddfu diflastod, bod yn greadigol, rhoi cynnig ar rywbeth newydd a chael gweithgaredd ystyrlon.

 

Darllenwch y disgrifiad rôl llawn am ragor o wybodaeth.

 

Gwnewch gais am un rôl wirfoddol yn unig.

Gwnewch gais yma

 

 

Gwirfoddolwr Cerddoriaeth

Mae gwirfoddolwyr yn hwyluso sesiynau Cerddoriaeth i gleifion ar wardiau cleifion mewnol. Gallai hyn fod trwy ganu, dod â’u hofferyn cerdd eu hunain, gwrando ar gerddoriaeth neu ddefnyddio adnoddau cerddoriaeth i chwarae caneuon, alawon a chael sgyrsiau am gerddoriaeth.

Ffocws y sesiynau yw ymgysylltu, mwynhad a/neu gyfranogiad.

Gall cerddoriaeth fod yn arf pwerus i ymgysylltu a chysylltu â phobl, gan ddod â llawenydd, chwerthin ac atgofion sy’n arwain at sgyrsiau difyr.

Darllenwch y disgrifiad rôl llawn am ragor o wybodaeth.

 

Gwnewch gais am un rôl wirfoddol yn unig.

Gwnewch gais yma