Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion

Edrychwch ar y rolau gwirfoddol isod yn y Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion.
Sylwch fod yn rhaid i chi fod yn 18 oed neu'n hŷn i wneud cais am un o'r rolau hyn.
Darllenwch y dudalen we Canllawiau Ymgeisio cyn gwneud cais am y rôl hon.
 

Mae ceisiadau ar gyfer y rownd hon bellach wedi cau

 

Gwirfoddolwr Ymgysylltu â Chleifion 

Nod cyffredinol y rôl yw darparu cymorth o safbwynt cyfeillio a gweithgareddau i drigolion yn yr ardaloedd cyffredin ar wardiau Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion yn Hafan y Coed, Ysbyty Athrofaol Llandochau neu'r Tai Adsefydlu Cymunedol. 

Mae’r rôl yn cynnwys cael sgyrsiau a chymryd rhan mewn gweithgareddau gyda phreswylwyr, tynnu eu sylw a lleihau diflastod neu unigrwydd a chefnogi staff cyflogedig i hwyluso sesiynau gweithgareddau yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithgareddau un i un yn yr ardaloedd cyffredin. 

Darllenwch y disgrifiad rôl llawn yma. 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Gwirfoddolwr Tîm Gweithgareddau

Mae'r Tîm Gweithgareddau yn dîm ymroddedig o staff sy'n darparu gweithgareddau sy'n canolbwyntio ar adferiad i hyrwyddo hunan-barch ac annog ymgysylltiad cadarnhaol â staff gofal iechyd ac ymyriadau. Nod y Tîm Gweithgareddau yw sicrhau bod profiad y claf o ansawdd uchel.

Mae gwirfoddolwyr yn cefnogi staff i hwyluso gweithgareddau strwythuredig yn uned iechyd meddwl Hafan-y-Coed. Gallai'r rhain gynnwys helpu cleifion i gymryd rhan mewn: grwpiau celf; grwpiau iechyd a harddwch; grwpiau cerddoriaeth; chwarae gemau bwrdd; grwpiau cymdeithasol; a sesiynau chwaraeon (fel pêl-droed a phêl-rwyd).

Darllenwch y disgrifiad rôl llawn yma.