Neidio i'r prif gynnwy

Yrwyr Gwirfoddol

Ceisiadau yn agor

Rydym yn chwilio am Yrwyr Gwirfoddol i wella ein Gwasanaeth Cymorth i Gleifion gwerthfawr ar safle Ysbyty Llandochau.  Dylai gyrwyr fod yn hyderus wrth gyfathrebu, dangos sgiliau gwrando rhagorol a bod yn ddibynadwy.

Mae'r gwasanaeth yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 12pm a 4pm.  Mae'n ofynnol i wirfoddolwyr fod ar gael am o leiaf 2 awr yr wythnos a dylent fod dros 18 oed. Sylwch fod y rôl hon yn digwydd ar safle Ysbyty Llandochau, gan gludo cleifion, staff ac ymwelwyr o wahanol fannau parcio i brif fynedfa'r ysbyty. Ni fydd gwirfoddolwyr yn cludo cleifion i ac o'u cartrefi i'r ysbyty. Nid oes angen car arnoch ar gyfer y rôl hon, byddwch yn gyrru cerbyd a ddarperir gan yr Elusen Iechyd, a'r Bwrdd Iechyd sy'n talu am yr holl danwydd.

Cynhelir cyfweliadau rhithiol.

Lawrlwythwch ddisgrifiad swydd Yrwyr Gwirfoddol i gael rhagor o wybodaeth.

Darllenwch y Canllawiau Ymgeisio ar y dudalen we cyn gwneud cais am y rôl hon.

gwnewch gais trwy glicio ar y ddolen hon