Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan Adnoddau Cymunedol y Fro

Mae Gwasanaeth Adnoddau Cymunedol y Fro (GACF) yn Dîm Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Thrydydd Sector integredig yn Ysbyty'r Barri, sy'n cydweithio â gwasanaethau eraill ledled Caerdydd a Bro Morgannwg.

Rydym yn gweithio gyda phobl yn eu cartref eu hunain i sicrhau eu bod mor ymarferol annibynnol â phosibl mewn gweithgareddau byw pob dydd, gan leihau'r angen i dderbyn pobl i'r ysbyty ac am wasanaethau gofal tymor hwy'r Gwasanaethau Cymdeithasol.  Cynigiwn hefyd ymyriad therapiwtig a chymorth ailalluogi i bobl ar ôl iddynt fod yn yr ysbyty, fel y gallant ddychwelyd i'w cartref mor fuan â phosibl. Anelwn at ddarparu cymorth ac ymyriad therapiwtig rhagorol sy'n canolbwyntio ar y cleient. Gweithiwn mewn partneriaeth â'r unigolyn tuag at gyrraedd nodau a nodwyd ar y cyd.

Mae'r tîm yn cynnwys Therapyddion Galwedigaethol, Gweithwyr Cymdeithasol, Seicotherapyddion, Therapyddion Lleferydd ac Iaith, Dietegwyr, Nyrsys, staff Cydlynu Gofal a Gweithwyr Cymorth Ailalluogi (Gofalwyr Cartref). Mae tua 45 o Weithwyr Cymorth Ailalluogi sy'n gweithio gyda phobl mewn modd galluogol i gefnogi'r unigolyn i fagu hyder ac annibynniaeth yn dilyn cyfnod o afiechyd. Mae Gweithwyr Cymdeithasol GACF yn gweithio gydag unigolion i ganfod anghenion cymorth parhaus, gan gysylltu â thimau rheoli gofal yn y Gwasanaethau Cymdeithasol i drefnu pecynnau cymorth parhaus os yw'n ofynnol.

Gall unigolion gael hyd at chwe wythnos o ymyriad therapiwtig a chymorth ailalluogi. Cydgynhyrchir rhaglen therapiwtig / cynllun cyflenwi gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar y cleient gyda'r unigolyn, a chaiff ei adolygu drwy gydol y broses ymyrryd.

Mae GACF yn gweithredu 7 diwrnod yr wythnos a 365/6 diwrnod y flwyddyn. Mae'r tîm Therapi / Nyrsio ar waith rhwng 8.00am a 4.30pm, a'r Tîm Cymorth Ailalluogi rhwng 7.00am a 10.30pm.

Swyddogaethau GACF

  • Sicrhau'r lefelau uchaf posibl o annibyniaeth i unigolyn drwy ddarparu cymorth therapi a gofal cartref ailalluogi. 

  • Cefnogi rhyddhau pobl o'r ysbyty 7 diwrnod yr wythnos.

  • Atal derbyn pobl i'r ysbyty 7 diwrnod yr wythnos.

  • Gweithio gydag unigolyn i'w annog i gyrraedd ei botensial wrth gyfrannu tuag at ei ofal ei hun.

  • Atal pobl rhag bod ag angen cymorth parhaus o'r timau gofal tymor hwy.

  • Darparu gwasanaeth gofal cartref cofrestredig o ansawdd uchel.

  • Trefnu cymorth o gwmpas yr unigolyn drwy gael at dîm amlddisgyblaeth.

Atgyfeiriadau i GACF

  • Os ydych yn yr ysbyty, bydd tîm y ward yn eich atgyfeirio i VCRS os yw'n ofynnol

  • Os ydych gartref, gall eich meddyg teulu eich atgyfeirio i VCRS os oes angen