Neidio i'r prif gynnwy

Triniaeth gyda Myfyrwyr

Mae Ysbyty Deintyddol y Brifysgol yn ysbyty addysgu ac mae arno angen cleifion sy'n addas i ddeintyddion dan hyfforddiant, dan oruchwyliaeth, eu trin.

Byddwch yn gymwys am driniaeth dim ond o dan yr amgylchiadau canlynol (heblaw mewn argyfwng i leddfu poen):

  • Nid ydych chi wedi cofrestru gyda deintydd.
  • Dylech allu dod i'r Ysbyty Deintyddol yn ystod oriau gwaith arferol (h.y. 9am - 4pm dydd Llun i ddydd Gwener).
  • Bydd angen i chi gytuno i gael eich trin gan ddeintyddion dan hyfforddiant, dan oruchwyliaeth.
  • Bydd triniaeth bob amser yn cymryd mwy o amser nag y byddai mewn Practis Deintyddol Cyffredinol, felly dylech fod yn barod i dreulio awr i 2 awr gyda ni bob ymweliad.
  • Os hoffech gofrestru i gael asesiad o'ch addasrwydd i gael triniaeth gyda'n myfyrwyr israddedig, galwch heibio i'r Ysbyty Deintyddol i lenwi ffurflen gais.

Ar ôl cael eich sgrinio gan ddeintyddion dan hyfforddiant sy'n cael eu goruchwylio gan staff hyfforddedig, bydd y driniaeth y mae ei hangen arnoch yn cael ei thrafod gyda chi, a chewch wybod p'un ai a ydych chi'n addas i gael eich trin gan ein deintyddion dan hyfforddiant ai peidio.  Ar ôl cytuno ar hyn, cewch eich rhoi ar restr aros addas. Byddwch yn ymwybodol nad yw unrhyw dargedau Rhestri Aros y GIG yn berthnasol i'r rhestr aros hon ac, felly, cewch wahoddiad i apwyntiad dim ond pan fydd eich anghenion o ran triniaeth yn cyfateb i anghenion addysg y myfyrwyr.

Gallai methu bod yn bresennol ddwywaith yn olynol, ni waeth a wnaethoch chi ffonio i roi gwybod i ni ai peidio, arwain at eich rhyddhau o'n gofal os bydd yr uwch aelod staff clinigol o'r farn bod hyn wedi tarfu ar addysg y myfyriwr. 

Triniaeth Frys

Os bydd argyfwng deintyddol yn codi tra byddwch chi'n cael cwrs triniaeth, byddwch yn gymwys i ddod i'r Clinig Brys yn Ysbyty Deintyddol y Brifysgol. Rhaid i gleifion sy'n cael triniaeth ar hyn o bryd, ac sydd mewn argyfwng, ffonio 02921 842415.  Mae'r rhif hwn ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio Gwyliau Banc. 

Ar ôl cwblhau eich cwrs triniaeth, cewch eich rhyddhau o ofal Ysbyty Deintyddol y Brifysgol.

Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i bractis deintyddol i barhau â'ch gofal.

Dilynwch ni