Neidio i'r prif gynnwy

Deintyddiaeth Adferol

Deintyddiaeth Adferol yw astudio, rhoi diagnosis a rheoli clefydau ceudod y geg sydd yn aml yn gofyn am reolaeth amlddisgyblaethol gymhleth. Mae'n cynnwys adsefydlu'r dannedd a cheudod y geg i wella gweithrediad, estheteg a lles seicolegol.

Mae Deintyddiaeth Adferol yn cynnwys sawl maes arbenigol gan gynnwys periodonteg, endodonteg a phrosthodonteg.   Mae'n cynnwys triniaeth ar gyfer cleifion sy'n oedolion sydd angen adferiadau, megis llenwadau cyffredinol, llenwadau gwreiddiau, pontydd, coronau a darpariaethau dannedd gosod rhannol, ynghyd â chleifion sydd angen therapi mewnblaniadau.   Mae deintyddiaeth adferol hefyd yn cynnwys rheoli problemau deintgig a chlefydau sianel y gwreiddyn a strwythurau cysylltiedig.

Fel rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, mae’r Adran Deintyddiaeth Adferol yn canolbwyntio’n bennaf ar adsefydlu’r geg a gofal cleifion â phroblemau deintyddol cymhleth sy’n cynnwys triniaethau arbenigol amlddisgyblaethol.  Mae hyn yn cynnwys darparu gofal deintyddol uwch i gleifion oncoleg, cleifion ag anffurfiadau datblygiadol gan gynnwys hypodontia a gwefus a thaflod hollt a'r rhai sydd wedi dioddef trawma deintyddol difrifol.  Mae hefyd yn darparu triniaeth i gleifion sy'n cael eu hatgyfeirio gan ddeintyddion gofal sylfaenol sydd ar lefel cymhlethdod uwch ac sydd angen cyngor a thriniaeth arbenigol.

Darperir triniaeth gan dîm o feddygon ymgynghorol y GIG ac ymgynghorwyr anrhydeddus a hyfforddeion ar bob lefel.   Darperir triniaeth hefyd gan hylenyddion a therapyddion.  Darperir prostheteg ar y cyd â thechnegwyr deintyddol o fewn labordy deintyddol sydd â gallu CAD/CAM uwch.  Cefnogir gofal cleifion gan dîm o nyrsys deintyddol.

Mae gan yr Ysbyty Deintyddol a'r Ysgol Ddeintyddiaeth glinigau addysgu israddedig ac ôl-raddedig adferol lle mae cleifion sydd angen gwaith adferol rheolaidd neu gymhleth yn cael eu trin gan hyfforddeion dan oruchwyliaeth.

Mae’r clinig staff Deintyddiaeth Adferol wedi'i leoli ar yr ail lawr ac mae'r Clinigau Myfyrwyr wedi'u lleoli ar yr ail a'r trydydd llawr.  Mae rhan o'r ail lawr wedi'i neilltuo i arbenigedd Deintyddiaeth Gofal Arbennig.

Dilynwch ni