Neidio i'r prif gynnwy

Deintyddiaeth Bediatrig

Mae'r Adran Deintyddiaeth Bediatrig yn darparu gofal iechyd y geg a deintyddol o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc (hyd at 16 oed) ac mae'n cefnogi addysg cenedlaethau'r dyfodol o ddeintyddion ac arbenigwyr.

 

Ein lleoliad

Mae'r Adran Deintyddiaeth Bediatreg ar lawr cyntaf Ysbyty Deintyddol y Brifysgol, Rhodfa Academaidd, Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd CF14 4XY

Yn gyffredinol, mae plant ag anghenion meddygol cymhleth yn cael eu gweld yn yr uned ddeintyddol yn Adran Cleifion Allanol Seren Fôr, ar lawr gwaelod Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru.

 

Ein gwasanaethau

Mae'r gwasanaeth Deintyddiaeth Bediatrig yn darparu cyngor a thriniaeth arbenigol i blant dan 16 oed sydd ag amrywiaeth o gyflyrau gan gynnwys:

  • Trawma deintyddol

  • Anomaleddau datblygiadol y dannedd a/neu'r ên, megis dannedd coll, dannedd ychwanegol, dannedd heb dorri trwodd, dannedd ag enamel/dentin annormal

  • Pydredd dannedd na ellir ei drin o fewn y gwasanaethau deintyddol cyffredinol neu gymunedol

  • Clefyd periodontol (y deintgig)

  • Gorbryder a ffobia deintyddol

  • Anghenion Arbennig/Ychwanegol

  • Cyflyrau meddygol acíwt a chronig

Mae Ymgynghorwyr Deintyddiaeth Bediatrig yn cymryd rhan mewn clinigau amlddisgyblaethol yn y meysydd canlynol:

  • Gwefus hollt a/neu daflod ac annormaleddau eraill yr wyneb a'r penglog (Ms Mechelle Collard)

  • Hypodontia ac annormaleddau deintyddol (Mrs Emma Hingston a Dr Shannu Bhatia)

Rydym yn darparu gofal deintyddol i blant sydd angen triniaeth a gefnogir gan dawelydd anadlu, tawelydd mewnwythiennol ac anesthesia cyffredinol. Mae plant sydd angen gofal deintyddol dan anesthetig cyffredinol yn cael eu gweld yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru. 

 

Addysgu a hyfforddiant

Mae ein hadran yn cyfrannu’n weithredol at addysgu a hyfforddi myfyrwyr israddedig mewn Deintyddiaeth a Hylendid a Therapi Deintyddol, yn ogystal â deintyddion ôl-raddedig ar ffurf Hyfforddeion Craidd ac Arbenigedd.

 
Ein tîm

Mae ein tîm ymroddedig o glinigwyr rhan-amser a llawn amser yn cynnwys:

  • Tri Ymgynghorydd GIG (Ms Mechelle Collard, Mrs Emma Hingston a Dr Monica Neil)

  • Dau Ymgynghorydd Academaidd (Dr Shannu Bhatia a'r Athro Nicola Innes)

  • Un Arbenigwr mewn Deintyddiaeth Bediatreg (Ms Sara Hughes)

  • Pedwar Cofrestrydd Arbenigol

  • Tri Darlithydd Clinigol

  • Un Deintydd Arbenigol

  • Dau Hyfforddai Craidd Deintyddol

  • Therapyddion Deintyddol

  • Tîm o Nyrsys Deintyddol
     

Gofal mewn Argyfwng a Gofal Brys

Os oes gan blentyn argyfwng deintyddol sy'n peryglu eu bywyd, fel haint deintyddol sy'n golygu eu bod yn cael trafferth anadlu, llyncu neu siarad, ffoniwch 999 i fynychu Adran Damweiniau ac Achosion Brys.

Ar gyfer pob problem ddeintyddol frys arall, dylai rhoddwyr gofal gysylltu â'u deintydd lleol. 

Ar gyfer plant yng Nghaerdydd, heb ddeintydd cyffredinol lleol, sydd â chwydd wyneb neu boen ddeintyddol na ellir eu rheoli gydag analgesia rheolaidd, dylai rhoddwyr gofal ffonio CAF 24/7 ar 0300 10 20 247 i gael cyngor ac i drefnu apwyntiad deintyddol brys; mae hyn yn debygol o fod gyda deintydd lleol i ddechrau.

Os oes angen gofal brys neu uniongyrchol ar blentyn yn yr Adran Deintyddiaeth Bediatreg, bydd apwyntiad yn cael ei drefnu.  Fel arfer mae apwyntiadau yn cael eu trefnu yn ystod y bore, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio ar wyliau banc.  Er bod slot amser yn cael ei ddyrannu, gwelir plant a rhoddwyr gofal yn nhrefn blaenoriaeth.  Efallai y bydd yn rhaid i blant a'u gofalwyr aros i gael eu gweld a dylent gynllunio eu diwrnod yn unol â hynny. 

Os yw plentyn sy'n derbyn gofal o fewn yr Adran Deintyddiaeth Bediatrig yn profi argyfwng deintyddol, fel poen neu chwyddo:

  • O fewn oriau gwaith dylai rhoddwyr gofal gysylltu â'r derbynnydd Deintyddiaeth Bediatreg, drwy ffonio 029 2184 3290
  • Y tu allan i oriau gwaith, cysylltwch â CAF 24/7 ar 0300 10 20 247

Ar gyfer plant sy'n byw y tu allan i Gaerdydd a'r Fro, ewch i wefan Galw Iechyd Cymru.
 

Beth allwch chi ei wneud?

Gellir osgoi llawer o broblemau’r geg a deintyddol trwy roi deiet iach, siwgwr isel i'ch plentyn a sicrhau eu bod yn brwsio eu dannedd gyda phast dannedd sy'n cynnwys fflworid am ddau funud ychydig cyn amser gwely ac ar un adeg arall bob dydd.

Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Cynllun Gwên drwy glicio ar y ddolen

Os yw'ch plentyn yn gyfarwydd â defnyddio widgits i gyfathrebu efallai y bydd yr adnoddau hyn yn ddefnyddiol i chi:

 

Adnoddau i Gleifion

Fideos ar beth i'w ddisgwyl yn eich ymweliad cyntaf â'r deintydd yn Ysbyty Deintyddol Caerdydd neu Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru.

 
 


 


 
Atgyfeiriadau i'r Adran

Dylid gwneud atgyfeiriadau gan ymarferwyr deintyddol cyffredinol drwy'r system atgyfeirio electronig.  Rhaid llenwi ffurflenni atgyfeirio yn llawn a dylid cynnwys radiograffau lle bo hynny'n berthnasol.  Dylai'r atgyfeiriad:

  • Gyfiawnhau'r angen am ofal lefel arbenigol
  • Rhoi manylion pa driniaeth sydd wedi'i chyflawni hyd yn hyn a beth fu ymateb y plentyn i hyn
  • Nodi a yw'r plentyn mewn poen neu wedi cael poen o'r blaen
  • Rhoi hanes o chwydd(au) yr wyneb a nifer y cyrsiau o wrthfiotigau a ragnodwyd os yw'n berthnasol

Y disgwyl yw y bydd ymgais wedi’i gwneud i rheoli ymddygiad, cynefino ac i roi triniaeth cyn gwneud penderfyniad i atgyfeirio. Os nad yw hyn yn glir gellir gwrthod yr atgyfeiriad.

Derbynnir atgyfeiriadau ysgrifenedig priodol gan feddygon a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill hefyd, er, os yw'n briodol, dylid sefydlu yn gyntaf a oes gan y plentyn ddeintydd lleol y gellid cysylltu ag ef yn y lle cyntaf.  Dylai unrhyw atgyfeiriad a wneir amlinellu'n glir y rheswm(rhesymau) pam mae angen gofal lefel arbenigol a darparu manylion hanes meddygol y plentyn, meddyginiaeth gyfredol ac unrhyw ragofalon arbennig y dylid eu cymryd wrth ddarparu triniaeth ddeintyddol.

Fel arfer, derbynnir atgyfeiriadau gan rieni a gwarcheidwaid yn unig yn achos argyfwng.

Rhaid i atgyfeiriadau gan ymarferwyr deintyddol cyffredinol ar gyfer echdyniadau orthodontig gynnwys manylion yr Orthodeintydd, ynghyd â chopi o'r llythyr gan yr Orthodeintydd yn nodi'r dannedd sydd i'w hechdynnu.  Heb y rhain, bydd yr atgyfeiriad yn cael ei wrthod.

Yn achos argyfwng fel trawma cymhleth, neu i drafod achos cymhleth, cysylltwch fel a ganlyn:

  • Yn ystod yr wythnos rhwng 9am a 5pm ffoniwch yr adran ar 02920 742458 a gofynnwch am siarad ag uwch aelod o staff. Os nad oes unrhyw un ar gael, gadewch eich manylion cyswllt a chrynodeb o'ch pryder a bydd rhywun yn eich ffonio'n ôl.
  • Ar ôl 5pm neu ar benwythnosau cysylltwch â CAF 24/7 ar 0300 10 20 247 neu ffoniwch 999 os ydych yn teimlo ei fod yn argyfwng.

Arbedwch eich dant

Dilynwch ni