Neidio i'r prif gynnwy

Llawdriniaeth yr Ên a'r Wyneb / Llawdriniaeth y Geg

Mae Ysbyty Deintyddol y Brifysgol yn darparu gwasanaeth arbenigol cynhwysfawr ar gyfer llawdriniaeth yr ên a'r wyneb / llawdriniaeth y geg.

Mae'r gwasanaeth yn cynnwys:

  • llawdriniaeth ar gyfer trawma i'r wyneb
  • mân lawdriniaeth y geg
  • cyflyrau cyn-falaen a malaen y pen a'r gwddf 
  • anhwylderau'r chwarennau poer 
  • tynnu dannedd gyda neu heb dawelyddu ymwybodol 
  • dannedd cywasgedig a chymhleth y mae angen eu tynnu 
  • diffygion creuanwynebol a'r geg 
  • problemau'r cymal arleisiol-mandiblaidd
  • patholeg yr wyneb, y geg, y genau a'r gwddf at ddiben cyngor, diagnosis a rheolaeth.

Mae'r gwasanaeth wedi'i leoli ar y Llawr Gwaelod.

Dilynwch ni