Neidio i'r prif gynnwy

Rhwydwaith Canser De Cymru

Mae triniaeth ganser yn y Deyrnas Unedig yn cael ei threfnu mewn rhwydweithiau. Mae 2 rwydwaith canser yng Nghymru ar hyn o bryd

Ar hyn o bryd, mae rhwydwaith canser De Cymru yn rhychwantu 75% o'r tirfas ac mae ganddo boblogaeth o 2.3miliwn. Mae canserau gynaecolegol yn cael eu rheoli o fewn y rhwydweithiau hyn.

Mae Canolfan Oncoleg Gynaecolegol De-ddwyrain Cymru (SEWGOC) yn Ysbyty Athrofaol Llandochau yn un o 2 ganolfan ganser gynaecolegol yn ne Cymru. Er bod y rhwydwaith yn cynnwys nifer o ysbytai cyffredinol yn ne Cymru, nid yw llif atgyfeirio pob un o'r ysbytai yn dod atom ni am resymau hanesyddol a logistaidd. Mae'r ysbytai canlynol o fewn Rhwydwaith Canser De Cymru ac mae'r rhai hynny sy'n atgyfeirio i SEWGOC wedi'u hamlygu yma.

Enw'r Ysbyty
Bwrdd Iechyd Lleol
Ysbyty Nevill Hall
Aneurin Bevan
Ysbyty Brenhinol Gwent Aneurin Bevan
Ysbyty Brenhinol Morgannwg Cwm Taf
Ysbyty'r Tywysog Siarl Cwm Taf
Ysbyty Tywysoges Cymru (Dwyrain Pen-y-bont ar Ogwr) ABMU
Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru Hywel Dda
Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg Hywel Dda