Neidio i'r prif gynnwy

Tystlythyrau

‘Yn ein huned bediatrig dibyniaeth uchel, pan ddechreuodd merch ifanc ddi-eiriau gynhyrfu, tybion ni ei bod felly am fod ei rhieni wedi gadael am ychydig bach. Ond, wrth ddefnyddio'r offeryn, daeth i'r amlwg fod angen iddi basio dŵr a'i bod yn anghyfforddus. Daethpwyd â chymorth toiled i mewn a llwyddodd i basio dŵr ac roedd yn rhydd o boen unwaith eto.’’
Nyrs Gyswllt Awtistiaeth Ddynodedig,
Ysbyty Wythenshaw, Ysbyty Athrofaol De Manceinion

"Rwyf wedi defnyddio offeryn Show me where mewn safle clinig gyda phlant ag Awtistiaeth ac anawsterau cyfathrebu. Mae'r offeryn wedi hwyluso archwiliad o'r bol neu'r frest neu'r clustiau, ond heb yr offeryn, ar yr adegau hynny, byddem wedi rhoi'r gorau i archwiliad am nad oedd y plentyn yn teimlo mewn rheolaeth neu am nad oedd yn gallu deall yr hyn yr oeddem ni'r clinigwyr am ei gyflawni. Mae'r offeryn yn rhoi ychydig bach o reolaeth yn ôl i'r plentyn, er mwyn iddo deimlo'n hapusach am yr hyn sy'n cael ei ofyn ganddo. Mae'r llun 'agor eich ceg' yn anhygoel – mae'r plant yn agor eu ceg led y pen mewn modd annisgwyl. Rwy'n bendant yn argymell hwn yn offeryn hanfodol i bob clinigwr sy'n gweithio'n rheolaidd gyda phlant ag anawsterau cyfathrebu a/neu Awtistiaeth."
Dr Sian Moynihan
Paediatregydd Cymunedol Ymgynghorol Arweiniol
Canolfan Blant Dewi Sant

"Rydym yn defnyddio Show me where yn rhan o'r Pecyn Cymorth Asesu a Rheoli Poen i Gleifion ag Anawsterau Cyfathrebu ym mhob maes clinigol ac rydym yn cadarnhau ei werth mewn ymarfer clinigol."
Sue Mogford
Nyrs Arweiniol
m Poen
BIP Caerdydd a'r Fro


"Mae Siart Cyfathrebu Show me where wir wedi helpu plant di-eiriau a disgyblion prin eu lleferydd i allu cyfathrebu os ydynt mewn poen. Mae hefyd wedi helpu disgyblion i ddeall beth sydd am ddigwydd yn ystod archwiliadau meddygol, sy'n helpu'n sylweddol i leihau'r pryder y gall apwyntiadau clinigol ei sbarduno'n aml mewn plant ag Awtistiaeth. Rwyf hefyd wedi cael y siart ynghyd â'r ap iPad yn ddefnyddiol iawn yn addysgu gwahanol rannau'r corff."

Lucy Brassey
BA Anrhydedd mewn Astudiaethau Cynradd


"Mae fy mab wedi canfod bod defnyddio'r Siart Cyfathrebu yn lleihau ei bryder wrth fynd at y Meddyg neu'r Nyrs. Llwyddodd i ganiatau archwiliad i'w wddf am y tro cyntaf erioed heb unrhyw straen nac anghysur, nid iddo ef nac i mi!!"
Ceri Lewis
Rhiant plentyn ag Awtistiaeth


"Bu'r Offeryn Cyfathrebu yn offeryn effeithiol iawn yn yr ystafell ddosbarth. Mae'n amhrisiadwy fel adnodd addysgu a dysgu, yn ogystal â galluogi plant ag anawsterau cyfathrebu i gyfleu'n gywir i oedolion/gofalwyr darddiad unrhyw anghysur neu boen. Rwy'n argymell yn fawr yr adnodd hwn i unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth sy'n gweithio gyda phlant ac oedolion ag anawsterau cyfathrebu."
K Keeley
Pennaeth
Ysgol Arbennig 'The Hollies'


"Mae'r ap yma'n wych! Rwyf wedi'i ddefnyddio'n llwyddiannus gyda detholiad o blant â chyflwr ar y sbectrwm awtistig, a chanddynt amrywiaeth o lefelau cyfathrebu yn amrywio o ddim iaith lafar i gyfathrebwyr gwych. Mae hwn wedi galluogi pob un ohonynt i roi gwybod inni beth sy'n brifo ac ymhle pan nad allant fynegi eu teimladau mewn unrhyw ffordd arall."
Sunshine Haskell (BA Anrhydedd TAR)
Athrawes
Ysgol Arbennig 'The Hollies'