Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion a'r Wybodaeth Ddiweddaraf

Newyddion a'r Wybodaeth Ddiweddaraf

Ionawr 2018 – Partneriaeth fasnachol newydd â Focus Games

Mae'n bleser mawr gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (BIPCAF) gyhoeddi ei bartneriaeth newydd â Focus Games, er mwyn hyrwyddo offer cyfleu poen ‘Show me where’ nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y DU a thros y byd i gyd.

Mae Focus Games yn allweddol yn newid y ffordd y mae iechyd a lles yn cael eu haddysgu, drwy gynllunio gemau addysgiadol arloesol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, i'r sector gofal iechyd, gan ddarparu dysgu wyneb yn wyneb.

Rydym yn llawn cyffro am weithio gyda'u tîm o arbenigwyr i gyflwyno ‘Show me where’ i gynulleidfa ehangach - gan helpu pawb sy'n ddieiriau i gyfathrebu!

Rhagfyr 2017 - mae Barnardos, Gwasanaethau Anabledd a Rhianta, Caerdydd bellach yn defnyddio SMW.

Hydref 2017 – mae SMW bellach ar gael i'r rheini ag anawsterau cyfathrebu yn Belfast, Glannau Humber, Swydd Derby a Dyfnaint.

Medi 2017 – mae astudiaeth beilot 'Pain Matters' gan Dîm Anabledd Dysgu BIP Aneurin Bevan wedi dangos bod SMW yn effeithiol yn dod o hyd i boen cleifion a'i fod yn arddangos pan fyddant yn rhydd o boen.

Cynhadledd 1000 o fywydau - Cryfhau'r Ymrwymiad, 21 a 22 Tachwedd 2016

Roeddem yn bresennol ac yn cyflwyno yn y gynhadledd. Cawsom ymateb anhygoel a gwnaethom gwrdd â llawer o bobl ymroddedig sy'n gofalu am bobl ag anawsterau cyfathrebu. 

Defnyddiodd Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd SMW mewn ymarfer chwarae rôl feddygol gyda Myfyrwyr Meddygaeth a Myfyrwyr Therapi Lleferydd o'r 4edd flwyddyn ar 10 Tachwedd. Cafwyd diwrnod diddorol yn gwylio hyfforddiant meddygon a therapyddion lleferydd newydd ac yn gweld cymaint o empathi oedd ganddynt tuag at gleifion dieiriau gan ddefnyddio offeryn ffan SMW. Cyflwynodd Irene a minnau hefyd yr ap Amlieithog ym mhob sesiwn.

Partneriaeth Arloesi Clinigol (PAC), 3 Tachwedd 2016

Cyflwynwyd SMW i'r Bartneriaeth Arloesi Clinigol a oedd yn rhyfeddu at SMW ac sydd wedi cytuno i'n cefnogi a'n helpu i hyrwyddo SMW gyda'u harbenigedd busnes.

Mae'r holl Ysgolion Arbennig yn Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr bellach yn defnyddio SMW
Sef:

  • Ysgol Pen-y-bryn, SA6 7PA
  • Ysgol Crug Glas, SA1 1QA
  • Ysgol Hendrefelin, SA10 7TY
  • Ysgol Arbennig Maes-y-Coed, SA10 7TY
  • Ysgol Arbennig Heronsbridge, Pen-y-bont ar Ogwr. CF31 3HT

Mae Ysbyty Athrofaol De Manceinion yn treialu'r offer ffan a'r ap Amlieithog yn yr Uned Ddydd Bediatrig.

Cyflwynwyd SMW i Staff Meddygol yn yr Uned Plant sydd wedi cytuno i dreialu SMW gan dargedu'r cleifion hynny ag Awtistiaeth yn benodol.

Mae'r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol wedi cymeradwyo SMW i rieni, meddygon teulu a Staff Clinigol.

Ysgol Arbennig Heronsbridge, Pen-y-bont ar Ogwr - 13 Hydref 2016

Aeth Irene a Jan i Ddiwrnod Rhieni Ysgol Heronsbridge a chawsant lawer o ddiddordeb gan therapyddion lleferydd, arweinwyr grwpiau cymunedol a rhieni, sydd â phlant â phroblemau lleferydd.

Mae'r ysgol wedi archebu Offer Ffan a Siartiau Wal magnetig, ac mae staff wedi lawrlwytho'r Ap amlieithog rhad ac am ddim, gan olygu bod Show Me Where bellach ar gael mewn ystafelloedd dosbarth a'r safle nyrsio yn Ysgol Heronsbridge, i ddisgyblion rhwng 3 a 19 oed.

Y Gynhadledd Nyrsio a Bydwreigiaeth - 29 Medi 2016

Cawsom ymateb gwych gan staff a oedd yn bresennol yn y Gynhadledd Nyrsio a Bydwreigiaeth ar 29 Medi. Rydym bellach yn trafod gyda Chyfarwyddiaeth Anableddau Dysgu BIP Aneurin Bevan, sydd â diddordeb yn offer Ffan ac Apiau Show Me Where ar gyfer ei Thîm Anableddau Dysgu a Therapi Lleferydd ac Iaith. Cawsom ddiddordeb hefyd gan Roisin O'Hare sy'n darparu asesiad iechyd i Geiswyr Lloches yng Nghymru, a Dianne Powell o'r Coleg Nyrsio Brenhinol, Addysg Feddygol.

Cynhadledd yr Ysgolion Arbennig, Abertawe – 27 Medi

Ar ôl inni fod yng Nghynhadledd yr Ysgolion Arbennig yn Stadiwm Liberty yn Abertawe, rydym wedi cael archebion am offer Ffan, ac mae staff wedi lawrlwytho'r Ap ym mhob un o'r pum ysgol arbennig yn ardal Abertawe.  Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru (WAST) yn treialu Ap ac offeryn Ffan Show Me Where gyda'i holl Ymatebwyr Cyntaf a Pharafeddygon yn ardal Abertawe, gan roi parhad gofal felly os daw disgyblion yn sâl ac os bydd criwiau ambiwlans yn dod i'w trin. 

Ap Amlieithog SMW yn ennill gwobrau IMI

Mae Ap symudol newydd 'Show me where' wedi ennill Gwobr Arian Sefydliad y Darlunwyr Meddygol a Gwobr Graffeg Gabriel Donald am arloesedd a chreadigrwydd. Diolch i bawb yn Nhîm SMW am eu gwaith caled ac i Her Technoleg Iechyd Cymru am ein hariannu. 

Ap symudol amlieithog

Ym mis Ionawr 2016 cawsom £12,000 o gyllid gan Her Technoleg Iechyd Cymru, er mwyn i'r tîm ddatblygu ap symudol amlieithog Show me where, i gynorthwyo'r rheini ag anawsterau cyfathrebu ond hefyd pobl nad ydynt yn siarad Saesneg. 

Mae'r ap yn cynnwys sain mewn chwe iaith: Cymraeg, Arabeg, Pwyleg, Somalieg, Wrdw a Bengaleg. 

Mae gan yr ap symudol nodweddion newydd ychwanegol gan gynnwys rhestr o symptomau disgrifiadol fel teimlo'n benysgafn, fel petaech am chwydu, yn egwan ac ati, yn ogystal â'r delweddau gwreiddiol yn dangos safle'r boen. 

Gan weithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, bydd yr ap yn galluogi ymatebwyr cyntaf a pharafeddygon i dreialu'r offeryn ffan a'r ap symudol yn ardal Abertawe am chwe mis, gydag asesiad ffurfiol yn cael ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2017. 

Bydd yr ap newydd ar gael i'w brynu gan Applestore a GooglePlay ym mis Medi 2016 a bydd ar gael ar gyfer dyfeisiau android ac Apple.

Gwasanaeth Ambiwlans Cymru'n treialu Show me where – Chwefror 2016

Newyddion gwych - mae tîm SMW wedi cael cyllid gan Her Technoleg Iechyd Cymru i ddarparu offer ffan SMW a datblygu ap symudol SMW i Wasanaeth Ambiwlans Cymru (WAST).

Her Technoleg Iechyd Cymru  

Mae'n darparu cyllid sbarduno i gynlluniau sy'n mynd i'r afael ag angen clinigol heb ei fodloni ac sy'n darparu technoleg newydd, a allai helpu i wella gofal iechyd neu ddwyn buddion i gleifion.  

Mae WAST, drwy ei Dîm Partneriaid mewn Gofal Iechyd yn Abertawe, yn treialu'r offeryn ffan i barafeddygon ledled ardal Bwrdd Iechyd PABM i gynorthwyo wrth ofalu am y cyhoedd cyffredinol sy'n ddieiriau oherwydd anabledd neu ar gyfer cleifion di-Saesneg a cheiswyr lloches.

Ar ran Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, dywedodd Lois Hough: 

“Drwy ymgysylltu â grwpiau cymunedol ledled Cymru, gan gynnwys grwpiau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig a fforymau ceiswyr lloches, datgelwyd bod cyfathrebu yn destun pryder i bobl nad Saesneg mo'u mamiaith. Credwn y bydd y gallu i nodi anghenion cyfathrebu cleifion ar y cyfle cyntaf a rhoi'r wybodaeth hon i wasanaethau eraill y GIG, fel yr ysbyty sy'n eu derbyn, yn gwella profiad y claf.”

Cysylltwch â ni os hoffech ragor o wybodaeth neu os hoffech drafod y cynnyrch.

Gwasanaeth Ambiwlans Cymru (WAST) Yn helpu'r rheini ag anabledd geiriol, pobl nad ydynt yn siarad Saesneg a cheiswyr lloches i gyfleu poen

Cleifion ag Anawsterau Dysgu - Ionawr 2016

Mae Andy Jones, un o'r Nyrsys Arweiniol, yn gweithio ar brosiect yn BIPCAF a fydd yn galluogi unrhyw glaf ag anawsterau dysgu i gael ei amlygu ar y gweithfan clinigol. Y nod yw rhybuddio/dangos i'r staff fod angen defnyddio'r Pecyn Cymorth Poen ar gyfer Cleifion ag Anawsterau Cyfathrebu ac offeryn ffan SMW i'r cleifion hynny ag anawsterau dysgu. 

SMW ar gael mewn meysydd Clinigol yn BIPCAF - Medi 2015

Mae offeryn Ffan SMW bellach ar gael gyda'r Pecyn Cymorth Poen i Gleifion ag Anawsterau Cyfathrebu, ym mhob maes clinigol yn Ysbyty Athrofaol Cymru (YAC) ac Ysbyty Athrofaol Llandochau (YALl). Fe'i defnyddiwyd yn llwyddiannus i gleifion nad ydynt yn gallu siarad i nodi safle poen, wrth i SMW helpu pobl i gyfathrebu. 

Cyflwyniad 'Show me where?' - Medi 2015

Cyflwynodd Irene a Jan Show me where i aelodau Bwrdd y BIP yng nghyfarfod y Gyfadran Gwella Ansawdd a Diogelwch ar 10 Medi 2015, lle cafodd groeso da, ac ystyriwyd ei fod yn "syniad gwych a fydd yn gwneud gwahaniaeth aruthrol i gynifer o gleifion" yn enwedig ceiswyr lloches sy'n dod i Gaerdydd. Maent hefyd wedi cyflwyno i'r grŵp Safonau ac Arloesi Clinigol a oedd â diddordeb yn yr offeryn ffan ar gyfer gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion ac i'r oedrannus mewn Cartrefi Gofal. 

Dangoswyd diddordeb mewn profi'r offeryn mewn safle clinigol, ei asesu mewn sefyllfa argyfwng meddygol gyda meddygon y fyddin, ei asesu ar gyfer cleifion Dementia gan ddefnyddio actorion, a'i ddefnyddio gyda myfyrwyr meddygaeth.

Gofynnwyd hefyd i Irene a Jan wneud fideo byr ar gyfer gwefan Pain Community.

Gwobr i Irene - Hydref 2014

Irene Hammond a Jan Sharp yng Ngwobrau Canmol

Cynlluniwyd Show me where gan Irene Hammond, nyrs o ysgol arbennig The Hollies yng Nghaerdydd ar gyfer plant ag awtistiaeth ac anableddau lleferydd. Cafodd Irene ei henwi'n Farchnatwr Newydd y Flwyddyn yn seremoni wobrwyo ddisglair CANMOL yng Ngwesty a Sba Dewi Sant ym mis Hydref 2014 - darllenwch yr eitem newyddion yma.