Neidio i'r prif gynnwy

Uned Llawfeddygaeth Arhosiad Byr

Mae'r Uned Llawfeddygaeth Arhosiad Byr yn ddatblygiad cymharol ddiweddar yn Ysbyty Athrofaol Cymru. 

Hon yw'r Uned Llawfeddygaeth Arhosiad Byr fwyaf yn Ewrop, ac mae'n cynnig profiad gofal iechyd unigryw i staff a chleifion yn un o'r amgylcheddau mwyaf datblygedig o'i fath.

Fe'i hadeiladwyd i ymgymryd â 13,500 o achosion y flwyddyn, mae ganddi 8 theatr, ac yn ddiweddar cynyddwyd y lle ar y wardiau i ddarparu 28 o welyau dros nos i oedolion a 9 o welyau paediatrig dros nos ac 16 o drolïau achos dydd oedolion.  

Yr hyn a gynigiwn 

I gleifion:

Mae mwyafrif y cleifion sy'n cael eu trin yn yr Uned yn cael asesiad cyn llawdriniaeth anesthetig yn ein hardal asesu a arweinir gan Nyrsys, a hwnnw ychydig wythnosau cyn y dyddiad y bwriedir cynnal eu llawdriniaeth. Mae hyn yn sicrhau bod cleifion yn addas i'w trin ar sail achos dydd neu driniaeth ddydd ac mae hefyd yn cwtogi ar ganslo.

Mae'r Uned yn darparu triniaeth i gleifion y mae angen ystod eang o lawdriniaethau arnynt, a'r rhan fwyaf o gleifion yn dychwelyd adref ar yr un diwrnod â'r llawdriniaeth.

Gan ddibynnu ar anghenion unigol, os bydd angen i gleifion aros yn yr ysbyty ni fydd gofyn iddynt aros mwy nag un noson. 

Mae gennym hefyd y cyfleusterau i gynnig lle i gleifion y mae angen iddynt aros yn hirach, hyd at 72 awr, gan gynnwys cleifion y mae angen gofal nyrsio dwysach arnynt ar ôl eu llawdriniaeth. Ymdrechwn i ddarparu gofal i gleifion sy'n bodloni anghenion a disgwyliadau'r unigolyn.


I adrannau eraill:

Nod yr Uned yw gweithio mewn partneriaeth ag adrannau eraill i wella a datblygu gwasanaethau ar draws ystod ehangach o arbenigeddau. 

Cynhelir nifer gynyddol o lawdriniaethau bellach yn yr Uned Llawfeddygaeth Arhosiad Byr, yr oedd arfer bod angen gwely claf mewnol arnynt, gan wella'r gwasanaeth a gynigir i gleifion felly. 

 

Lleoliadau