Neidio i'r prif gynnwy

Ymchwil a Datblygu Masnachol

Mae'r Adran Ymchwil a Datblygu yn hwyluso gwaith ymchwil clinigol masnachol ar ran y Bwrdd Iechyd, ac mae ganddi rôl benodol wrth ymgymryd â'r canlynol:

  • cynnal asesiad cyfreithiol o'r contract i leihau risg i'r eithaf (negodi cytundeb y treial clinigol)
  • sicrhau bod yr holl gostau'n cael eu talu a gorbenion yn cael eu hadennill
  • darparu gwasanaeth ar gyfer ymchwilwyr i hwyluso a chydlynu'r rhyngweithio rhwng y cwmni a'r bwrdd iechyd er mwyn i dreialon symud yn ddidrafferth trwy'r broses gymeradwyo.

Gorau po gyntaf y bydd y swyddfa Ymchwil a Datblygu yn ymwneud â'r broses o sefydlu treial clinigol masnachol.

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru hefyd yn darparu nifer o wasanaethau i gefnogi cynnydd gwaith ymchwil masnachol yn y GIG yng Nghymru, gan gynnwys:

  • Cyfeirio Cyffredinol - Gwasanaeth gwybodaeth a chyngor sydd ar gael i gwmnïau sy'n awyddus i gychwyn neu ymestyn eu gweithgareddau ymchwil a datblygu yng Nghymru. 
  • Cydlynu Dichonoldeb - Mae system ganolog a chydlynol ar waith i hwyluso asesiadau dichonoldeb dibynadwy, sy'n golygu bod modd amlygu safleoedd newydd yn gyflym ledled Cymru.
  • Cyngor a Chymorth gyda Chontractau - Mae cyngor arbenigol ar gael i gydweithwyr yn y GIG ac mewn diwydiant i helpu i negodi contractau'n effeithlon, a hwyluso'r broses o sefydlu astudiaeth yn gyflym.
  • Sefydlu a Rheoli Astudiaeth - Mae cymorth ar gael i sefydlu astudiaethau'n effeithiol ac yn effeithlon yn y GIG a, lle y bo'r angen, goruchwylio'r broses o gynnal yr astudiaeth.

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am waith ymchwil masnachol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, anfonwch neges e-bost at: CAV_commercial.trials@wales.nhs.uk

 

 

Dilynwch ni