Neidio i'r prif gynnwy

Adsefydlu

Mae'r Gyfarwyddiaeth Gerontoleg Glinigol (sef yn flaenorol y Gyfarwyddiaeth Gofal Acíwt a Chanolradd i Bobl Hŷn neu OPAIC) yn eistedd ym Mwrdd Clinigol Meddygaeth BIP Caerdydd a'r Fro. Mae'r Gyfarwyddiaeth yn cynnwys naw ward a thri Ysbyty Dydd sydd wedi'u lleoli ar bedwar safle ysbyty. 

Yn ogystal â'r gwasanaethau cleifion mewnol ac Ysbyty Dydd, mae gan y Gyfarwyddiaeth wasanaethau cleifion allanol ar gyfer Clefyd Parkinson a Cholli Cof a hefyd Gwasanaeth Asesu Gofal yr Henoed (ECAS). 

Datganiad o Genhadaeth / Nod y Gyfarwyddiaeth

Ein nod yw cyflenwi gofal rhagorol, diogel, effeithiol a thosturiol i'r rheini y mae gofyn cymorth arnynt i gyrraedd eu potensial i wella ac adsefydlu, gan ddefnyddio sgiliau'r Tîm Amlddisgyblaethol a chynnwys y claf / teulu / gofalwr.

 

Ein Gwasanaethau

  • Adsefydlu wedi Strôc
  • Adsefydlu Orthopedig
  • Adsefydlu Meddygol
  • Ysbytai Dydd
  • Gwasanaeth Asesu Gofal yr Henoed (ECAS)
  • Tîm Cof
  • Clefyd Parkinson

Cymorth Digidol

Gan ddarparu cymorth adsefydlu penodedig i gleifion, mae Cadw Fi’n Iach wedi cael ei dylunio i gynnig cyngor ac arweiniad ar adsefydlu, gwella a hunanreoli i gleifion ar draws Caerdydd a’r Fro.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.keepingmewell.com.

 

Lleoliad

Swyddfa'r Gyfarwyddiaeth
Ysbyty Athrofaol Llandochau
Ffordd Penlan 
Llandochau
CF64 2XX

Ffôn: 029 2071 6378 / 6066

Dilynwch ni