Neidio i'r prif gynnwy

Sgan awyru'r ysgyfaint a darlifiad (sgan VQ)

Prawf yw hwn i archwilio'r cyflenwad aer a gwaed i'ch ysgyfaint ac i ddarganfod unrhyw geuladau gwaed yn y cyflenwad gwaed hwn.

Paratoi ar gyfer y prawf

Rhowch wybod i ni os ydych chi'n feichiog neu os ydych chi'n meddwl eich bod chi'n feichiog.

Nid oes angen paratoad.

Trefn yr archwiliad

Mae'r prawf yn gofyn ichi anadlu ychydig bach o nwy arbennig sy'n cynnwys traswr ymbelydrol a chwistrelliad trwy'r wythïen. Mae'r pigiad hwn yn ddiogel, heb unrhyw sgîl-effeithiau.


Cymerir y delweddau fel arfer tra'r ydych ar eich eistedd. Mae'n cymryd tua 30 munud.

Dilynwch ni