Neidio i'r prif gynnwy

Cost Triniaeth

Bydd eich Ymgynghorydd, eich Anesthetydd a'r BIP yn codi tâl arnoch ar wahân, felly cofiwch hyn wrth amcangyfrif cyfanswm cost eich triniaeth. 

Bydd yr ysbyty yn codi tâl arnoch am ddefnyddio cyfleusterau'r ysbyty tra bydd y driniaeth yn cael ei chynnal. Bydd y tîm Cleifion Preifat yn falch o roi amcangyfrif o gost yr ysbyty i chi, cyn dyddiad y driniaeth. Dim ond amcan bris yw'r amcangyfrif hwn, oherwydd gall amgylchiadau amrywio yn ystod y driniaeth ei hun. 

 

Hunanariannu

Os ydych yn bwriadu talu am eich triniaeth eich hun, efallai bydd gofyn ichi dalu'r gost a amcangyfrifir cyn eich triniaeth. Os bydd y gost derfynol yn llai na'r amcangyfrif, bydd y gwahaniaeth yn cael ei ad-dalu i chi.

Os bydd y gost derfynol yn fwy na'r amcangyfrif, byddwch yn cael anfoneb am y gweddill a dylid talu hwn cyn gynted ag y gallwch.

Yswiriant Meddygol Preifat

Cyn cael eich triniaeth, bydd angen ichi ddarparu cod awdurdodi gan eich yswiriwr yn ogystal â manylion eich polisi. 

Os cewch unrhyw anhawster yn talu eich cyfrif, rhowch wybod inni cyn gynted ag y gallwch oherwydd y claf sy'n gyfrifol am dalu yn y pen draw.

Mae'r Bwrdd Iechyd Prifysgol yn derbyn y dulliau talu canlynol:

  • Arian 
  • Siec
  • Cerdyn Credyd/Debyd 

Beth sy'n digwydd nesaf?

Pan fyddwch wedi cytuno ar eich cynllun triniaeth gyda'ch Ymgynghorydd, bydd gofyn ichi naill ai dalu'r swm a amcangyfrifwyd / yr amcan bris, neu ddarparu cod awdurdodi gan eich yswiriwr gofal iechyd preifat.

Bydd gofyn hefyd ichi lofnodi ffurflen 'Ymrwymiad i Dalu', sy'n nodi eich manylion personol a manylion eich yswiriant, ac sy'n gytundeb i sicrhau bod y gweddill ar eich cyfrif yn cael ei dalu.

Tîm Profiad y Claf

Os nad ydych yn fodlon ar unrhyw agwedd ar eich gofal, mae hawl gennych godi eich pryderon ag unrhyw aelod o staff. Os nad ydych yn teimlo y gallwch wneud hyn, cysylltwch â Thîm Profiad y Claf ar 029 2074 2233.

Ymholiadau Cyffredinol

Os bydd angen gwybodaeth o natur feddygol arnoch, cysylltwch â'ch Ymgynghorydd. Ar gyfer pob ymholiad arall, e-bostiwch y Tîm Cleifion Preifat.

Dilynwch ni