Gall eich asesiad cyn llawdriniaeth gymryd rhwng hanner awr a hyd at 3 awr, yn dibynnu ar ba fath o lawdriniaeth yr ydych yn cael eich asesu ar ei chyfer, ac ar unrhyw ymchwiliadau y gallai fod angen eu cynnal yn ystod eich asesiad.
- Wyneb yn wyneb – gofynnir ichi fynychu'r clinig cyn llawdriniaeth.
- Sgrinio un stop - byddwch yn mynychu asesiad cyn llawdriniaeth yn syth ar ôl mynychu'r clinig.
- Asesiad ffôn - efallai y byddwch yn derbyn galwad ffôn gan y tîm asesu cyn llawdriniaeth a fydd yn cynnal yr asesiad dros y ffôn.
- Sgrinio trwy'r post - efallai y byddwch yn derbyn ffurflen Sgrinio Iechyd yn y post. Yn dibynnu ar eich atebion, efallai y bydd apwyntiad i chi ddod i'r clinig yn dilyn hyn.
Clinigau mewn Asesiad cyn Llawdriniaeth
- Asesiad anesthetig gyda nyrs ac anesthetydd cymwys.
- Prawf Ymarfer Cardio Pwlmonaidd (CPET neu CPEx) - mesuriad anfewnwthiol ar y pryd o'r system gardiofasgwlaidd ac anadlol yn ystod ymarfer corff i asesu eich gallu i ymarfer.
- Prawf alergedd - gofynnir ichi fynychu'r clinig hwn os ydych wedi cael unrhyw adwaith blaenorol i anesthetig neu feddyginiaeth.