I gael y canlyniad gorau posibl o'ch asesiad cyn llawdriniaeth, nodwch y canlynol:
Dewch â rhestr gyda chi o'r holl feddyginiaethau rydych chi'n eu cymryd ar hyn o bryd, gan gynnwys eu nerth a pha mor aml rydych chi'n eu cymryd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, ysgrifennwch nhw i lawr a dewch â nhw gyda chi, fel y gall y nyrs eu hateb.
Os oes angen i ni drefnu cyfieithydd ar y pryd trwy Wasanaeth Dehongli a Chyfieithu Cymru (WITS) rhowch wybod i ni. Neu fel arall, cynorthwywch ni trwy ddod â rhywun gyda chi a all ddehongli cynnwys yr asesiad yn gywir ar eich rhan.
Os oes angen cludiant ysbyty arnoch, trefnwch hyn trwy eich meddyg teulu, cyn dyddiad ac amser eich apwyntiad.
Gallwch fwyta, yfed a chymryd eich meddyginiaethau fel arfer ar ddiwrnod eich apwyntiad.
Gan y gallech chi gael archwiliad corfforol, efallai yr hoffai menywod wisgo dillad ar wahân (nid ffrog), e.e. top a throwsus/sgert.
Wrth gyrraedd y clinig asesiad cyn llawdriniaeth
Ein nod yw eich gweld cyn gynted â phosibl. Fodd bynnag, yn dibynnu ar sut mae pethau'n symud ymlaen yn y clinig, efallai y bydd dipyn o amser aros. Siaradwch ag aelod o staff os ydych wedi bod yn aros am fwy na 30 munud, ac na chawsoch eich hysbysu o'r amcangyfrif o amser aros.
Os hoffech siarad â phrif nyrs neu fetron y ward yn ystod eich apwyntiad, gofynnwch i'r nyrs â gofal drefnu hyn i chi.
Os ydych chi'n gwisgo sbectol, dewch â hi gyda chi, oherwydd ar ôl cyrraedd bydd gofyn i chi lenwi holiadur meddygol. Sicrhewch eich bod yn cyrraedd o leiaf 10 munud cyn eich amser asesu a drefnwyd ymlaen llaw.
TO REDUCE THE RISK OF INFECTION:
If you feel unwell the day before your appointment, please ring us to cancel and re-arrange.