Neidio i'r prif gynnwy

Paratoi ar gyfer eich Asesiad Cyn Llawdriniaeth

I gael y canlyniad gorau posibl o'ch asesiad cyn llawdriniaeth, nodwch y canlynol:

  • Dewch â rhestr gyda chi o'r holl feddyginiaethau rydych chi'n eu cymryd ar hyn o bryd, gan gynnwys eu nerth a pha mor aml rydych chi'n eu cymryd.
  • Os oes gennych unrhyw gwestiynau, ysgrifennwch nhw i lawr a dewch â nhw gyda chi, fel y gall y nyrs eu hateb.
  • Os oes angen i ni drefnu cyfieithydd ar y pryd trwy Wasanaeth Dehongli a Chyfieithu Cymru (WITS) rhowch wybod i ni. Neu fel arall, cynorthwywch ni trwy ddod â rhywun gyda chi a all ddehongli cynnwys yr asesiad yn gywir ar eich rhan.
  • Os oes angen cludiant ysbyty arnoch, trefnwch hyn trwy eich meddyg teulu, cyn dyddiad ac amser eich apwyntiad.
  • Gallwch fwyta, yfed a chymryd eich meddyginiaethau fel arfer ar ddiwrnod eich apwyntiad.
  • Gan y gallech chi gael archwiliad corfforol, efallai yr hoffai menywod wisgo dillad ar wahân (nid ffrog), e.e. top a throwsus/sgert.

Wrth gyrraedd y clinig asesiad cyn llawdriniaeth

  • Ein nod yw eich gweld cyn gynted â phosibl. Fodd bynnag, yn dibynnu ar sut mae pethau'n symud ymlaen yn y clinig, efallai y bydd dipyn o amser aros. Siaradwch ag aelod o staff os ydych wedi bod yn aros am fwy na 30 munud, ac na chawsoch eich hysbysu o'r amcangyfrif o amser aros.
  • Os hoffech siarad â phrif nyrs neu fetron y ward yn ystod eich apwyntiad, gofynnwch i'r nyrs â gofal drefnu hyn i chi.
  • Os ydych chi'n gwisgo sbectol, dewch â hi gyda chi, oherwydd ar ôl cyrraedd bydd gofyn i chi lenwi holiadur meddygol. Sicrhewch eich bod yn cyrraedd o leiaf 10 munud cyn eich amser asesu a drefnwyd ymlaen llaw. 

TO REDUCE THE RISK OF INFECTION:

If you feel unwell the day before your appointment, please ring us to cancel and re-arrange.

Dilynwch ni