Neidio i'r prif gynnwy

Cysylltwch â ni

Croeso i'r gwasanaeth Podiatreg i gleifion yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg

Mae gan yr adran podiatreg dros 45 o bodiatryddion gyda chefnogaeth sawl cynorthwyydd/ technegydd clinigol podiatreg a thîm o swyddogion clerigol.

Rydym yn cynnig ystod eang o wasanaethau cleifion mewnol, cleifion allanol a chymunedol i oedolion a phlant gyda chyflyrau a phatholeg amrywiol sy'n effeithio ar y droed a'r goes. Darperir y gwasanaethau hyn ledled Caerdydd a Bro Morgannwg.

Gyda phwy rydyn ni'n gweithio?

Diffinnir podiatreg fel maes gofal iechyd sydd wedi'i neilltuo i astudio a thrin anhwylderau'r droed, y ffêr, y goes, y pen-glin, y glun a'r asgwrn cefn. Rôl y Podiatrydd yw cynnal a gwella hyfywedd meinwe, swyddogaeth loco-modur, lliniaru poen a lleihau effaith anabledd, cynyddu a chynnal symudedd ac annibyniaeth a hybu iechyd a llesiant i ystod eang o gleifion.

Mae podiatryddion yn weithwyr proffesiynol sy'n gyfrifol am:

  • Asesiad cleifion a dosbarthiad risg
  • Diagnosis
  • Gwerthuso a thriniaeth
  • Grymuso
  • Strategaethau ataliol cydweithredol ac addysg iechyd
  • Gweithredu arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth

Gwybodaeth Gyswllt

Canolfan Rheoli Cleifion Podiatreg
Gwasanaethau Podiatreg
Ysbyty Brenhinol Caerdydd
Ffordd Casnewydd
Caerdydd
CF24 0SZ

Oriau agor  

Dydd Llun i Ddydd Iau

Dydd Gwener

09:00 - 12:00 ac 13:30 - 16:00

09:00 - 12:00 yn unig

Ymholiadau cyffredinol a threfnu apwyntiadau i gleifion presennol 029 2033 5134
Galwadau cartref 029 2033 5135
Swyddfa atgyfeirio cleifion newydd 029 2033 5370 / Ffacs: 029 2033 5498
Dilynwch ni